Lotta Lotass | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 28 Chwefror 1964 ![]() Gagnef ddinesig ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor ![]() |
Swydd | seat 1 of the Swedish Academy ![]() |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr Aftonbladet am lenyddiaeth, Gwobr Eyvind Johnson, Gwobr Selma Lagerlöf, Gwobr Samfundet De Nios Särskilda, Sveriges Radio's Novel Prize, Stina Aronson Prize ![]() |
Awdures o Sweden yw Lotta Lotass (ganwyd 28 Chwefror 1964) ac sy'd byw heddiw yn Gothenburg, hefyd yn Sweden.
Ganed Britt Inger Liselott Lotass yn Gagnef, yng nghanol Sweden, y pentref lle ganed yr actores Malin Levanon hefyd. Astudiodd ym Mhrifysgol Gothenburg, Swqeden lle derbyniodd Ddoethuriaeth (PhD) mewn llenyddiaeth gymharol.[1][2][3][4]
Gwnaeth Lotass ei ymddangosiad llenyddol cyntaf yn 2000, a dwy flynedd yn ddiweddarach cyhoeddodd ei thraethawd doethuriaeth ar yr awdur o Sweden, Stig Dagerman. Ar 6 Mawrth 2009, gwahoddwyd Lotass yn swyddogol i sedd y diweddar Sten Rudholm (Sedd Rhif Un) yn aelod o Academi Sweden. Cymerodd Lotass ei sedd - un o 18 aelod - ar 20 Rhagfyr 2009.[5][6] Ond erbyn Mai 2018 roedd Lotass wedi ymddiswyddo, gan nad oedd wedi gwneud dim gyda'r Academi am y ddwy flynedd flaenorol.[7]