Louis Mahoney | |
---|---|
Ganwyd | 8 Medi 1938 ![]() Y Gambia ![]() |
Bu farw | 28 Mehefin 2020 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | Y Gambia ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor teledu ![]() |
Actor Prydeinig a anwyd yn y Gambia oedd Louis Felix Danner Mahoney (8 Medi 1938 – 28 Mehefin 2020[1]). Gwnaeth ei gartref yn Hampstead, Llundain. Roedd yn ymgyrchydd gwrth-hiliaeth ac wedi ymgyrchu am amser hir dros gydraddoldeb hiliol o fewn y byd actio. Cynrychiolodd aelodau Affricanaidd-Asiaidd ar gyngor yr undeb actorion, Equity, gan ddod yn Is-lywydd rhwng 1994 a 1996.[2]