Lucas Cruikshank | |
---|---|
Ganwyd | 29 Awst 1993 Columbus |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cynhyrchydd YouTube, digrifwr, sgriptiwr, actor plentyn, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr teledu, actor teledu, actor, vlogger, actor llais, actor llais |
Gwefan | http://fredfigglehorn.com/ |
Actor comedi Americanaidd yw Lucas Cruikshank (ganed 29 Awst[1] 1993). Bu'n byw yn Columbus, Nebraska. Creodd Cruikshank y cymeriad Fred Figglehorn ar gyfer ei sianel, Fred, ar YouTube.[2] Mae'r fideos yn rhoi'r pwyslais ar Fred Figglehorn, bachgen 6 oed ffuglennol, direidus, a'i broblemau'n rheoli ei ddicter.[3]
Cyflwynodd Cruikshank ei gymeriad Fred Figglehorn yn fideos JKL Productions, sianel YouTube a greodd Cruikshank gyda'i gefndyr John a Katie Smet. Sefydlodd y tri eu sianel JKL Productions ar 11 Mehefin 2006 a ffilmiodd Cruikshank ei fideo Fred yn gyntaf ar 30 Hydref 2006. Ar 30 Ebrill 2008 symudwyd y fideos Fred i'r sianel newydd, Fred, ac ar 1 Mai, rhyddhawyd y fideo swyddogol cyntaf "Fred on Mai Day". Erbyn Ebrill 2009, roedd gan y sianel mwy na miliwn o danysgrifwyr, y sianel gyntaf i ennill hyn.[4]
Yn Rhagfyr 2009, ffilmiodd Cruikshank Fred: The Movie, a darlledwyd ar Nickelodeon ym Medi 2010. Creodd Nickelodeon fasnachfraint am y cymeriad ac maent wedi dechrau gwneud dilyniant i'r ffilm ym Mawrth 2011.[5][6][7]