Luke Evans | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Luke George Evans ![]() 15 Ebrill 1979 ![]() Pont-y-pŵl ![]() |
Man preswyl | Shoreditch ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, actor llwyfan, actor ![]() |
Adnabyddus am | Beauty and the Beast, Pinocchio ![]() |
Gwobr/au | Gwobrau Teen Choice ![]() |
Gwefan | http://www.lukeevans.uk.com ![]() |
Actor a chanwr o Gymru yw Luke Evans (ganwyd 15 Ebrill 1979).[1]
Cychwynnodd gyrfa Evans ar y llwyfan, yn perfformio mewn nifer o gynyrchiadau West End Llundain yn cynnwys Rent, Miss Saigon, a Piaf cyn ennill ei ran Hollywood cyntaf yn chwarae rhan Apollo yn ail-gread 2010 Clash of the Titans. Yn dilyn hyn, fe'i castiwyd mewn ffilmiau cyffro ac acsiwn fel Immortals (2011), The Raven (2012), a'r ail-ddychmygiad o The Three Musketeers (2011), lle'r oedd yn chwarae rhan Aramis.
Yn 2013, serennodd Evans fel y prif wrthwynebydd Owen Shaw yn y ffilm fawr Fast & Furious 6, ac fe chwaraeodd Bard the Bowman yn addasiad tri-rhan Peter Jackson o lyfr The Hobbit gan J.R.R.Tolkien.[2] Portreadodd y fampir Dracula yn y ffilm am wreiddiau'r stori, Dracula Untold.[3]