Lustmord | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Lustmord, Arecibo, Dread, Isolrubin BK ![]() |
Ganwyd | 9 Ionawr 1964 ![]() y Deyrnas Unedig, Llundain ![]() |
Man preswyl | Los Angeles ![]() |
Label recordio | Hydra Head Records, Soleilmoon Recordings ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, sound designer, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm, llenor, athro ysgol uwchradd, cerddor ![]() |
Arddull | dark ambient ![]() |
Gwefan | https://www.lustmord.com ![]() |
Mae Brian Williams yn un o’r cyfansoddwyr Cymreig cyfoes mwyaf llwyddiannus, yn gweithio fel cyfansoddwr sgoriau ffilm a theledu yn Hollywood a dylunydd sain gemau cyfrifiaduron.
O dan yr enw Lustmord mae Williams wedi rhyddhau nifer fawr o recordiau gan gael y clod am fod yn sylfaenydd y genre dark ambient.
Dechreuodd wneud gerddoriaeth ym Mangor yn 1980 gydag Alan Holmes. Dewisodd yr enw Lustmord am ei brosiectau cerddorol ac wedyn symudodd i Lundain ble anogwyd yn y dyddiadau cynnar gan aelodau Throbbing Gristle, cyn ymuno’r grŵp Awstraliaid ‘industrial’, SPK.[1]
O dan y prosiect Lustmord mae Williams wedi gwneud recordiadau maes mewn cryptau, ogofâu a lladd-dai, ac wedi eu cyfuno â swynganeuon seremonïau a gwyntoedd. Mae ei driniaethau o ffenomenau acwstig sy'n cael eu trin yn ddigidol, gan greu sain ddofn a tharanllyd, yn rhoi awyrgylch tywyll i'w gerddoriaeth.
Mae Williams hefyd wedi cyfrannu at 44 o draciau sain ffilm Hollywood (yn fwyaf nodedig The Crow ac Underworld). Mae hefyd wedi creu’r sain ar gyfer nifer o gemau cyfrifiaduron.
Ymddangosodd yn fyw gyntaf yn ei yrfa 25 mlynedd fel rhan o seremoni enfawr a drefnwyd gan Eglwys Satan, a gynhaliwyd ar 6-6-06. Dywedodd Williams fod y cynnig yn "un o'r pethau oedd yn rhy ddoniol i ddweud 'na'!". Perfformiodd Lustmord am yr eildro mewn 29 mlynedd yng Ngŵyl Unsound Kraków ar 22 Hydref 2010.[2][3]
Dychwelodd i Gymru ym mis Tachwedd 2018 i berfformio yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontio Bangor fel rhan o’r ŵyl Psylence.[4]