![]() | |
![]() | |
Math | dinas, atyniad twristaidd, dinas fawr ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 202,232 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Luxor Governorate ![]() |
Gwlad | Yr Aifft ![]() |
Arwynebedd | 416 km² ![]() |
Uwch y môr | 89 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 25.6967°N 32.6444°E ![]() |
Cod post | 85511 ![]() |
![]() | |
Prif ddinas De'r Aifft a phrifddinas yr ardal o'r un enw yw Luxor (Arabeg: الأقصر al-Uqṣur), gyda phoblogaeth o 451.318 (cyfrifiad 2006), mewn ardal o 416km2. Mae Luxor yn sefyll ar safle dinas hynafol Thebes. Mae cymaint o olion archaeolegol yno fel bod rhai wedi cyferio at Luxor fel "amgueddfa awyr agored fwyaf y byd"; mae olion teml Karnak a Teml Luxor o fewn y ddinas fodern. Dros yr afon, sef Afon Nîl, mae rhagor o demlau a beddau'r Lan Orllewinol sef Necropolis Thebes, yn cynnwys Dyffryn y Brenhinoedd a Dyffryn y Breninesau. Prif ddiwydiant Luxor erbyn heddiw yw twristiaeth.