Enghraifft o: | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | lymffoma, neoplasm, clefyd y system hematopoietig, clefyd |
Arbenigedd meddygol | Hematoleg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Lymffoma di-Hodgkin (NHL) yn grŵp o ganserau gwaed sy'n cynnwys pob math o lymffoma ac eithrio lymffomata Hodgkin. Gellir adnabod y cyflwr drwy symptomau megis nodau lymff chwyddedig, twymyn, chwysu nosol, colli pwysau a blinder. Ymhlith y symptomau eraill y mae poen ynghylch yr esgyrn, poen yn y frest, neu ymdeimlad o gosi. Mae rhai ffurfiau'n tyfu'n araf tra bod eraill yn tyfu'n gyflym.[1]
Lymffomata yw mathau o ganser sy'n datblygu o lymffosytau, ffurf o gelloedd gwaed gwyn. Mae ffactorau risg yn cynnwys system imiwnedd gwan, afiechydon hunanimíwn, haint Helicobacter pylori, hepatitis C, gordewdra, a'r firws Epstein-Barr.[2] Dosbarthir lymffoma i mewn i bum prif grŵp gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a chlustnodwyd un ar gyfer lymffoma Hodgkin.[3] Ymhlith y pedwar grŵp sy'n weddill (NHL) ceir dros 60 math penodol o lymffoma.[4][5] Gwneir diagnosis drwy archwilio biopsi mêr esgyrn neu nodau lymff. Gellir defnyddio dulliau delweddu meddygol er mwyn canfod penodau a lledaeniad y canser.
Mae'r driniaeth a roddir yn ddibynnol ar natur y lymffoma, hynny yw cyflymder ei dyfiant a'i lledaeniad. Ymhlith y triniaethau posib y mae cemotherapi, therapi ymbelydredd, imiwnotherapi, therapi targedig, trawsblannu celloedd bonyn, llawdriniaeth, neu archwiliadau cyson. Os ceir tewhad ormodol yn y gwaed o ganlyniad i wrthgorffynnau, gellir defnyddio plasmapheresis. Rhaid nodi hefyd bod therapïau ymbelydredd a rhai rhaglenni cemotherapi'n medru cynyddu'r risg o ddatblygu canser eraill, ynghyd â chlefyd y galon neu broblemau nerfol dros gyfnod o ddegawdau wedi'r driniaeth.
Yn 2015 roedd gan oddeutu 4.3 miliwn o bobl yn dioddef o Lymffoma ddi-Hodgkin yn fyd-eang, a bu farw 231,400 ohonynt yn yr un flwyddyn. Mae'r cyflwr yn effeithio ar 2.1% o boblogaeth yr Unol Daleithiau yn ystod cyfnod o'u bywyd. Yn fwy aml na pheidio, gwneir diagnosis mewn unigolion rhwng 65 a 75 mlwydd oed. Mae 71% o ddioddefwyr yn yr Unol Daleithiau yn goroesi dros bum mlynedd wedi diagnosis.[6]
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)