![]() | |
Enghraifft o: | cytser ![]() |
---|---|
Rhan o | Northern celestial hemisphere ![]() |
![]() |
Un o'r 88 cytser seryddol yw Lyra, neu'r Delyn, cytser eithaf bach yn y rhan ogleddol o'r wybren. Vega yw'r seren ddisgleiriaf.[1]
Mae Lyra yn gytser clasurol gafodd ei gynnwys ar restr 48 cytser yr hen athronydd Groeg Ptolemi. Ym mytholeg glasurol roedd Lyra yn delyn a ganwyd gan Orpheus.[2]
Mae Lyra'n un o'r 88 cytser swyddogol mae'r Undeb Seryddol Rhyngwladol yn eu cydnabod, a Lyr yw'r talfyriad swyddogol yr Undeb. Lyrae yw'r ffurf Lladin genidol y cytser sy'n cael ei ddefnyddio gyda llythyren Roeg i greu enwau rhai sêr yn ôl cyfundrefn enwi yr hen seryddwr Almaeneg Johann Bayer.[1]
I'r llygad noeth, mae'r cytser yn cael ei ddominyddu gan Vega, neu Alffa Lyrae (α Lyr), un o'r sêr disgleiriaf yn yr holl wybren. Gyda dosbarth spectrol o A0V, mae lliw gwyn neu las-gwyn gan Vega., gyda mantioli ymddangosol (gweladwy) o 0.03.[3][4][5]
Mae Beta Lyrae (β Lyr), hefyd Sheliak, yn seren ddwbl gyda'r ddwy seren mor agos mae nwy yn trosglwyddo o un i'r llall. Seren luosg yw Epsilon Lyrae (ε Lyr), gyda dau gwrthrych i'w weld trwy delesgop bach amatur. Ond mae telesgopau ychydig mwy yn dangos bod y ddau eu hunain yn ddeol.[1][5]
Lleolir Messier 57, neu Nifwyl y Fodrwy, yn Lyra, nifwl planedol adnabyddus a grewyd gan nwy sy wedi'i chwythu oddi wrth hen seren esblygedig.[1]
Mae'r clwstwr globylog Messier 56 i'w weld yn Lyra.[1]