![]() | |
![]() | |
Enghraifft o: | meddalwedd perchnogol, cyfres o fodelau, Unix, system weithredu, Mac OS operating systems, UNIX 03, Platfform cyfrifiadurol ![]() |
---|---|
Math | Mac OS operating systems, Unix ![]() |
Iaith | Almaeneg, Saesneg, Arabeg, Sbaeneg Mecsico, Sbaeneg, Catalaneg, Coreeg, Croateg, Daneg, Slofaceg, Ffinneg, Ffrangeg, Groeg, Hebraeg, Hwngareg, Indoneseg, Eidaleg, Japaneg, Iseldireg, Portiwgaleg Brasil, Portiwgaleg, Rwmaneg, Rwseg, Tsieceg, Tyrceg, Wcreineg, Fietnameg, Tsieineeg Syml, Tsieineeg Traddodiadol, Norwyeg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 24 Mawrth 2001 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 24 Mawrth 2001 ![]() |
Cyfres | XNU, FreeBSD, Unix, Darwin ![]() |
Yn cynnwys | macOS Sequoia ![]() |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint ![]() |
Sylfaenydd | Steve Jobs ![]() |
Rhagflaenydd | NeXTSTEP, Classic Mac OS, Rhapsody ![]() |
Gwefan | https://apple.com/macos ![]() |
![]() |
System weithredu diweddaraf cyfrifiaduron Apple Macintosh yw macOS, a gyflwynwyd fel Mac OS X yn 2001. Mae'n olynydd i Classic Mac OS, sef system weithredu a ddefyddiwyd o 1984 hyd 2000. Yn wahanol i'w rhagflaenwyr, mae macOS yn system weithredu sy'n seiliedig ar UNIX, wedi'i adeiladu ar dechnoleg o'r enw NeXTstep a ddatblygwyd gan cwmni NeXT. Sefydlwyd NeXT gan Steve Jobs (a ddaeth yn Brif Weithredwr Apple yn ddiweddarach) pan orfodwyd iddo ymddiswyddo o Apple yn 1985. Prynnwyd NeXT (a elwir yn OPENSTEP yn erbyn hynny) gan Apple prynu yn 1997 wedi i Apple benderfynu bod technoleg y cwmni yn dewis addas i selio ei system weithredu newydd arno.
Rhyddhawyd y fersiwn cyntaf (yn targedu gweinyddion), Mac OS X Server 1.0, yn 1999. Rhyddhawyd y fersiwn ar gyfer y bwrdd gwaith, Mac OS X fersiwn 10.0, yn Mawrth 2001. Yn wreiddiol enwyd pob fersiwn o'r system ar ôl rhywogaeth o gathod mawr ("Jaguar", "Panther", "Tiger", "Leopard", ayyb) ac wedi 2013, ar ôl lleoedd yng Nghaliffornia ("Yosemite", "Monterey", "Big Sur", "Sonoma", ayyb).