Macbeth, brenin yr Alban | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1005 ![]() |
Bu farw | 15 Awst 1057 ![]() Lumphanan ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Alban ![]() |
Galwedigaeth | brenin ![]() |
Swydd | teyrn yr Alban, Mormaer of Moray ![]() |
Tad | Findláech of Moray ![]() |
Mam | Donalda of Alba ![]() |
Priod | Gruoch of Scotland ![]() |
Llinach | Tŷ Moray ![]() |
Macbeth (c.1005 - 15 Awst 1057) oedd brenin yr Alban o 1040 hyd ei farwolaeth yn 1057. Ei daid oedd Malcolm II. Priododd Gruoch wyres Kenneth II, brenin yr Alban.
Yn 1040 gorchfygodd Duncan, brenin yr Alban, a'i ladd a gyrrodd ei feibion, Malcolm a Donald Bán, i alltudiaeth. Ar un olwg mae'n cynrychioli ymateb Celtaidd i ddylanwad Seisnig yn nheyrnas yr Alban.
Rheolodd am dros ddegawd, ond ar 15 Awst, 1057, fe'i lladdwyd gan Malcolm III, brenin yr Alban, mab Duncan, ym mrwydr Lumphanan.[1]
Seilir y ddrama Macbeth gan Shakespeare ar ei fywyd a thraddodiadau amdano. Ffynhonnell Shakespeare oedd y croniclydd Holinshed a dynnodd ar yr hanesydd Albanaidd Boyis Boece.