Delwedd:Leopoldo Metlicovitz, 1904 - Madama Butterfly.jpg, Collina presso Nagasaki, bozzetto di Alexandre Bailly, Marcel Jambon per Madama Butterfly (1906) - Archivio Storico Ricordi ICON000079.jpg | |
Enghraifft o: | gwaith drama-gerdd |
---|---|
Label brodorol | Madama Butterfly |
Gwlad | yr Eidal |
Iaith | Eidaleg |
Dyddiad cyhoeddi | 15 Chwefror 1904 |
Dechrau/Sefydlu | 27 Rhagfyr 1903 |
Genre | opera, tragedy |
Cymeriadau | Cio-Cio-san, B.F. Pinkerton, Kate Pinkerton, Sharpless, The Bonze, Yakuside, The Imperial Commissioner, The Official Registrar, Cio-Cio-san's mother, The aunt, The cousin, Suzuki, Goro, Prince Yamadori, Dolore ("Sorrow"), Q63677476 |
Yn cynnwys | Un bel dì, vedremo |
Libretydd | Luigi Illica, Giuseppe Giacosa |
Lleoliad y perff. 1af | La Scala |
Dyddiad y perff. 1af | 17 Chwefror 1904 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Enw brodorol | Madama Butterfly |
Lleoliad y gwaith | Nagasaki |
Cyfansoddwr | Giacomo Puccini |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Opera gan y cyfansoddwr Eidalaidd Giacomo Puccini (1858-1924) yw Madama Butterfly. Mae'n opera mewn tair act (yn wreiddiol mewn dwy), gyda libreto Eidalaidd gan Luigi Illica a Giuseppe Giacosa.
Mae'r opera yn seiliedig ar stori fer 'Madame Butterfly' (1898) gan John Luther Long, a chafodd ei seilio ar straeon adroddodd Long i'w chwaer Jennie Correll a'r nofel hanner-hunangofiannol Ffrengig Madame Chrysanthème gan Pierre Loti.[1][2][3] Cafodd fersiwn Long ei ddramateiddio gan David Baelasco i'r ddrama un-act Madame Butterfly: Trychineb Siapan, a symudodd i Lundain ar ôl ei pherfformiad cyntaf yn Efrog Newydd yn 1900, lle welodd Puccini'r cynhyrchiad yn y flwyddyn honno.[4]
Perffromiwyd gyntaf fersiwn gwreiddiol yr opera, mewn dwy act, ar 17 Chwefror 1904 yn La Scala yn Milan. Derbyniwyd yn wael, er gweathaf cantorion nodweddig y cyfnod fel soprano Rosina Storchio, tenor Giovanni Zenatello a'r bariton Giuseppe De Luca yn y prif rolau. Yn gyfrifol am hwn oedd Puccini ar ôl iddo gwblhau'r opera'n hwyr, a olygodd nid oedd digon o amser ar gyfer ymarferion. Adolygodd Puccinni yr opera, gan hanneru'r ail act, gyda'r Corws Hymian fel pont i'r trydedd act, gan wneud newidiadau eraill hefyd. Daeth llwyddiant o'r diwedd. gan ddecrhau gyda'r perfformiad cyntaf ar 28 Mai 1904 yn Brecia.[5]