Madeline Smith | |
---|---|
![]() Madeline Smith fel Miss Caruso yn Live and Let Die (1973) | |
Ganwyd | 2 Awst 1949 ![]() Hartfield ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | actor, digrifwr, model, actor ffilm, model hanner noeth ![]() |
Priod | David Buck ![]() |
Mae Madeline Smith (ganed 2 Awst 1949), yn actores o Saesnes a aned yn Hartfield, Sussex.
Dilynodd yrfa fel model yn y 1960au ac actiodd wedyn mewn sawl ffilm gomedi o'r chwedegau a'r saithdegau (e.e. mewn rhai ffilmiau Carry On), mewn cyfresi teledu (e.e. "The Two Ronnies" a "Doctor in the House") ac mewn ffilmiau arswyd Hammer.
Actiodd mewn ffilm Hammer am y tro cyntaf yn Taste the Blood Of Dracula (1969). Ond mae ei statws cwlt fel seren Hammer yn tarddu yn bennaf o ddwy ffilm gofiadwy, The Vampire Lovers (1970) a Frankenstein and the Monster from Hell (1974).