Maelgwn ab Owain Gwynedd | |
---|---|
Ganwyd | 12 g Teyrnas Gwynedd |
Bu farw | 1173 |
Galwedigaeth | teyrn |
Tad | Owain Gwynedd |
Roedd Maelgwn ab Owain Gwynedd yn dywysog ar ran o Wynedd.
Roedd Maelgwn yn fab i Owain Gwynedd a Gwladus ferch Llywarch ap Trahaearn, felly roedd yn frawd llawn i Iorwerth Drwyndwn, tad Llywelyn Fawr. Ar farwolaeth Owain Gwynedd yn 1170 cafodd Maelgwn Ynys Môn fel ei gyfran ef o'r deyrnas, ond yn 1173 ymosodwyd arno gan ei frawd Dafydd ab Owain Gwynedd a'i orfodi i ffoi i Iwerddon. Dychwelodd yn ddiweddarach yr un flwyddyn ond cymerwyd ef yn garcharor gan Dafydd. Nis oes unrhyw gofnod pellach amdano.