Carreg 'Maen Huail' | |||||
Lleoliad | Canol tref Rhuthun. (OS Grid ref SJ123582) | ||||
---|---|---|---|---|---|
Rhanbarth | Gogledd Cymru | ||||
Cyfesurynnau | 53°06′52″N 3°18′39″W / 53.1144°N 3.3108°W | ||||
Math | carreg hynafol | ||||
History | |||||
Cyfnodau | yr Oesoedd Canol | ||||
Nodiadau safle | |||||
Cyflwr | Da | ||||
Mynediad i'r cyhoedd | Ydy | ||||
|
Carreg yw Maen Huail sydd wedi'i lleoli yn Sgwar San Pedr yng nghanol Rhuthun, Sir Ddinbych, gogledd Cymru. Ceir plac wrth ei ymyl sy'n nodi mai yno, yn ôl traddodiad, y torrodd y Brenin Arthur ben Huail, brawd Gildas yr hanesydd, wrth iddynt gystadlu am law yr un fenyw.
Mae cofnod sy'n dyddio yn ôl i 1699 yn disgrifio'r garreg yng nghanol y ffordd, ond mae bellach yn erbyn wal adeilad banc Barclays a godwyd yn ystod yr 20g fel copi o Neuadd Exmewe.[1][2]
Tarddiad y chwedl yw Cronicl Elis Gruffydd a ysgrifennwyd tua 1550. Mae'n debygol i'r maen gael ei ddefnyddio dros y canrifoedd fel carreg farchnad neu sifig, ac i bregethu arno. Mae'r garreg galchfaen bellach wedi ei herydu gan y tywydd ac yn mesur 1.2 metr o hyd, a thua 0.6 metr o led ac uchder.[3]