Maenan

Maenan
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanddoged a Maenan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.182°N 3.805°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH793665 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/au y DUClaire Hughes (Llafur)
Map

Pentref ar wasgar a phlwyf eglwysig yng nghymuned Llanddoged a Maenan, Cymru, yw Maenan.[1] Saif tua 4 milltir i'r gogledd o Lanrwst ac i'r de o blwyf Eglwysbach. Mae'n rhan o gymuned Llanddoged a Maenan. Poblogaeth: tua 300 gyda chanran sylweddol yn siaradwyr Cymraeg.

Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn dod o gefndir amaethyddol. Ceir cymysgedd o ffermio defaid, godro ac iseldir.

Mae ail-safle Abaty Aberconwy, a fu'n abaty Sistersiaidd, yno; mae gwesty erbyn hyn ar safle'r abaty, fymryn i'r gorllewin o'r A470.

Caeodd Ysgol Maenan yn y 1990au cynnar. Mae plant o Faenan yn awr yn teithio i Landdoged neu Eglwysbach am addysg gynradd, ac i Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst ar gyfer addysg uwchradd. Mae'r rhan fwyaf yn gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol.

Ym Maenan, mae Cader Ifan Goch. Dywed y chwedl, yn y man hwn oedd cadair y cawr Ifan Goch. Ceir golygfeydd godidog o Ddyffryn Conwy o'r safle. Yma hefyd gallwch weld fynyddoedd y Carneddau a mynyddoedd Arenig. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen ar y safle ar hyn o bryd. Mae'r llwybr i fyny at y safle yn croesi drwy goetir sy'n perthyn i eiddo preifat.

Yn Yr Wigfa, ganwyd a magwyd yr awdures Mary Vaughan Jones. Mae hi'n cael ei hadnabod fwyaf fel awdures llyfrau Sali Mali. Mae llechen er côf amdani ym maes parcio Cadair Ifan Goch.

Ceir dau gapel ym Maenan: Capel Tan Soar a Chapel Salem, gyda gwasanaethau Cymraeg ar y Sul.

Ym Maenan, lleolir fragdy lleol Bragdy'r Nant yn Penrhwylfa. Dechreuodd y bragdy yn 2007 gan ŵyr yr ardal, ac mae bellach yn cyflenwi i nifer o dafarndai ar draws y rhanbarth.

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne