Arwyddair | Making every journey better. |
---|---|
Math | maes awyr rhyngwladol, erodrom traffig masnachol, sefydliad |
Enwyd ar ôl | Llundain, Heathrow |
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Hillingdon |
Agoriad swyddogol | 31 Mai 1946 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fawr (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Uwch y môr | 80 troedfedd |
Cyfesurynnau | 51.4775°N 0.461389°W |
Nifer y teithwyr | 61,611,838 |
Rheolir gan | Heathrow Airport Holdings Limited |
Perchnogaeth | Heathrow Airport Holdings Limited |
Maes awyr mawr ym Mwrdeistref Llundain Hillingdon yw Maes Awyr Heathrow, codau: IATA: LHR, ICAO: EGLL. Fe'i lleolir tua 14 milltir i'r gorllewin o ganol Llundain. Maes awyr prysuraf y byd yn nhermau traffig rhyngwladol teithwyr ydy o, ac yn nhermau traffig cyfan teithwyr mae o'n ail brysuraf y byd a phrysuraf Ewrop. Mae BAA yn berchen ar Heathrow ac yn ei weithredu. Mae pum terfynfa ganddo; agorwyd y tair terfynfa gyntaf yn y 1950au a 1960au, y bedwerydd ym 1986 a'r bumed yn 2008. Mae'r gwasanaethau cludiant eraill sy'n cysylltu â fo yn cynnwys Rheilffordd Danddaearol Llundain a'r gwasanaeth rheilffordd cyflym Heathrow Express i orsaf Paddington yn Llundain.