![]() | |
Math | maes awyr rhyngwladol, maes awyr, erodrom traffig masnachol ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Sydney, Charles Kingsford Smith ![]() |
Agoriad swyddogol | 1933 ![]() |
Cylchfa amser | Australia/Sydney ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Sydney ![]() |
Lleoliad | Mascot ![]() |
Sir | De Cymru Newydd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 21 troedfedd ![]() |
Cyfesurynnau | 33.9483°S 151.1761°E ![]() |
Nifer y teithwyr | 28,983,874 ![]() |
Rheolir gan | Sydney Airports Corporation Limited ![]() |
![]() | |
Maes awyr rhyngwladol yn Sydney, De Cymru Newydd, Awstralia yw Maes Awyr Sydney Kingsford Smith (Saesneg: Sydney Kingsford Smith Airport). Fe'i lleolir 8 km i'r de o ardal fusnes ganolog Sydney ym maestref Mascot, wedi'i leoli drws nesaf i Bae Botany. Mae ganddo dair rhedfa ac yn eiddo i Daliadau Maes Awyr Sydney (Sydney Airport Holdings).
Dyma'r prif faes awyr sy'n gwasanaethu Sydney ac mae'n brif ganolbwynt ar gyfer Qantas, yn ogystal â chanolfan eilaidd ar gyfer Jetstar a Virgin Australia, ac yn ddinas ffocws i Air New Zealand, QantasLink a Rex Airlines.
Maes Awyr Sydney yw un o'r meysydd awyr masnachol hynaf yn y byd sy'n gweithredu'n barhaus a dyma'r maes awyr prysuraf yn Awstralia. Ar hyn o bryd mae gan Sydney 46 o gyrchfannau domestig a 43 o gyrchfannau rhyngwladol sy'n cael eu gwasanaethu'n uniongyrchol.[1][2]