![]() Y Wheel o Drams ym Maesycwmer, gan Andy Hazell. | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 2,242, 2,405 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Sirol Caerffili ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 752.15 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.633°N 3.233°W ![]() |
Cod SYG | W04000908 ![]() |
Cod OS | ST1594 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhianon Passmore (Llafur) |
AS/au y DU | Chris Evans (Llafur) |
![]() | |
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Maesycwmer, hefyd Maesycwmwr[1] (Saesneg: Maesycwmmer).[2] Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,141. Ni chredir i'r enw ddod o'r gair "cymer", sef y lleoliad lle mae dwy afon yn uno. Credir mai tarddiad yr enw ydy'r hen air Cymraeg "cwmwr" sef pont droed. Dyma'r bont a ddefnyddiai'r Parch Shôn Shincyn i groesi'r afon i'w dŷ (Maesycwmmwr House) a leolwyd ar ochr ddwyreiniol yr afon ac a godwyd yn 1826. Yr enw a ddefnyddir hefyd ar fapiau'r Degwm yn 1940 oedd Maesycwmwr.[3] Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Chris Evans (Llafur).[4][5]
Saif Maesycwmer bum milltir i'r gogledd o dref Caerffili, ar lan ddwyreiniol afon Rhymni, gyferbyn a Hengoed ar y lan orllewinol. Gerllaw mae Traphont Hengoed.