Maggie Smith | |
---|---|
Ganwyd | Margaret Natalie Smith 28 Rhagfyr 1934 Ilford |
Bu farw | 27 Medi 2024 Chelsea and Westminster Hospital |
Man preswyl | Pulborough |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, actor cymeriad, actor llwyfan, actor |
Taldra | 1.65 metr |
Priod | Robert Stephens, Beverley Cross |
Plant | Toby Stephens, Chris Larkin |
Gwobr/au | Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Gwobr yr Academi am Actores Gynhaliol Orau, Gwobr Cymdeithas Academi BAFTA, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau mewn Rhan Gynhaliol, Gwobr Primetime Emmy i'r Actores Gynorthwyol Orau mewn Mini-gyfres neu Ffilm, Gwobr Primetime Emmy ar gyfer Prif Actores Eithriadol mewn Cyfres Bitw neu Ffilm, Primetime Emmy Award for Outstanding Supporting Actress in a Drama Series, Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - mewn Drama Gerdd neu Gomedi ar Ffilm, Gwobr Golden Globe am yr Actores Gynhaliol Orau - Ffilm Nodwedd, Gwobr y Golden Globe i'r Actores wrth Gefn Orau - Cyfres, Cyfres bitw neu Ffilm Deledu, Gwobr Tony am yr Actores Orau mewn Drama, doethur anrhydeddus Prifysgol St Andrews, Cydymaith Anrhydeddus, Primetime Emmy Award for Outstanding Supporting Actress in a Drama Series, Critics' Circle Award for Distinguished Service to the Arts, Gwobr Theatr yr Evening Standard am yr Actores Orau, Medal Bodley, CBE |
Actores o Loegr oedd y Fonesig Margaret Natalie Smith, CH DBE (28 Rhagfyr 1934 – 27 Medi 2024).[1] Cafodd yrfa hir ac amrywiol ar lwyfan ac ar ffilm a theledu dros chwe deg mlynedd. Ymddangosodd mewn dros 50 ffilm ac roedd yn un o actoresau mwyaf adnabyddus gwledydd Prydain. Fe'i gwnaed yn Gadlywydd o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn 1970 ac yn DBE yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 1990 am wasanaethau i'r celfyddydau perfformiadol,[2] ac yn Aelod o Urdd Cydymaith Anrhydedd (CH) yn Anrhydeddau Pen-blwydd 2014 am wasanaethau i ddrama.[3]
Ym 1969, enillodd ei Gwobr Academi gyntaf am y ffilm, The Prime of Miss Jean Brodie.[4] Yn ddiweddarach yn ei bywyd, daeth yn fwyaf adnabyddus am ei phortread o Violet yn y gyfres deledu Downton Abbey.[5]
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Downton