Magnoliidau | |
---|---|
Tiwlipwydden (Liriodendron tulipifera) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Magnoliidau |
Urddau | |
Grŵp mawr o blanhigion blodeuol yw'r magnoliidau (Saesneg: magnoliids). Mae'r grŵp yn cynnyws tua 9,900 o rywogaethau;[1] ceir y mwyafrif ohonynt mewn rhanbarthau trofannol. Mae gan eu gronynnau paill un mandwll yn hytrach na thri mandwll fel yr ewdicotau.[2] Mae gan y mwyafrif o'r magnollidau ddail ag ymylon llyfn a rhwydwaith o wythiennau canghennog.[2] Mae magnoliidau o bwysigrywdd economaidd yn cynnwys yr afocado, nytmeg (Cneuen yr India), pupur du a sinamon.