Magnus III, brenin Norwy | |
---|---|
Ganwyd | 1073 Norwy |
Bu farw | 24 Awst 1103 Afon Quoile |
Dinasyddiaeth | Norwy |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | teyrn Norwy |
Tad | Olaf III of Norway |
Mam | Thora Jonsdottir |
Priod | Margaret Fredkulla |
Partner | NN, Thora, Sigrid Saxesdatter, NN |
Plant | Eystein I of Norway, Sigurd the Crusader, Olav Magnusson of Norway, Tora Magnusdatter, Sigurd Slembe, Harald IV o Norwy, Ragnild Magnusdotter |
Llinach | Hardrada dynasty |
Roedd Magnus III neu Magnus Olafsson (c.1074 - 1103) yn frenin Norwy o 1093 hyd ei farwolaeth. Fe'i llysenwyd Magnus Droednoeth am iddo fabwysiadu'r kilt Albanaidd yn lle'r trowsus Llychlynaidd traddodiadol.
Roedd Magnus yn un o'r olaf o'r brenhinoedd viking a fentrai ar y môr i geisio cadw gafael Norwy ar ei thiriogaethau lled-annibynnol ym Môr y Gogledd, Iwerddon a'r Môr Celtaidd.
Roedd yn fab i'r brenin Olaf III Haraldsson. Gwnaeth gyfres o gyrchoedd ar Ynysoedd Erch a Shetland (1098-1099). Ar ôl cyrraedd Ynysoedd Erch, anfonodd Paul ac Erlend Thorfinnson (dau o'r dri Iarll yr ynysoedd) i Norwy, a daethon nhw erioed yn ôl. Gosodwyd Sigurd, mab Magnus III yn eu lle. Wedyn aeth eu meibion, Hakon Paulsson, Erland Erlandsson a Magnus Erlendsson (yn ddiweddarach Sant Magnus), yn wystlon ar fordaith ysbeilio efo Magnus III, i Ynysoedd Heledd, Gogledd Iwerddon ac Ynys Manaw, cyn iddyn nhw gyrraedd Ynys Seiriol, lle digwyddodd brwydr Afon Menai yn erbyn y Normaniaid.[1] Dywedir bod Magnus Erlandsson wedi gwrthod cymryd rhan yn y frwydr; arhosodd ar gwch yn canu salmau.[2]
Ysgrifennodd Bjorn Krepphendt, bardd Magnus, cerdd am eu taith ysbeilio trwy'r Ynysoedd Heledd.[3]
Yn ystod y blynyddoedd 1102-1103 arweiniodd ei lynges i ymosod ar Lychlynwyr anheyrngar gorllewin yr Alban ac Iwerddon. Cipiodd Ddulyn a chododd amddiffynfeydd newydd ar Ynys Manaw, ond yn ddiweddarach cafodd ei ladd mewn ysgarmes yn Ulster.