Math | ynys, mainland ![]() |
---|---|
Prifddinas | Kirkwall ![]() |
Poblogaeth | 17,162 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Erch ![]() |
Sir | Ynysoedd Erch ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 540 km² ![]() |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Cyfesurynnau | 58.9833°N 3.1°W ![]() |
Hyd | 40 cilometr ![]() |
![]() | |
Mainland yw'r enw ar brif ynys Ynysoedd Erch (Orkney) yng ngogledd-ddwyrain yr Alban. Mae'r boblogaeth tua 15,000, am yma y ceir dwy dref fwyaf Ynysoedd Erch, Kirkwall a Stromness. Yma hefyd mae Eglwys Gadeiriol Sant Magnus, canolfan grefyddol yr ynysoedd.
Ceir nifer o hynafiaethau Neolithig pwysig ar yr ynys, yn arbennig Cylch Brodgar, cylch cerrig 104 m ar draws, siambr gladdu Maes Howe, a phentref Skara Brae. Dynodwyd y casgliad yma o hynafiaethau yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. I'r de o'r ynys mae bae Scapa Flow.