![]() Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Phyllida Lloyd |
Cynhyrchydd | Judy Craymer Catherine Johnson Uwch Gyfarwyddwyr Benny Andersson Björn Ulvaeus Rita Wilson Tom Hanks Phyllida Lloyd |
Ysgrifennwr | Catherine Johnson |
Serennu | Meryl Streep Amanda Seyfried Pierce Brosnan Colin Firth Stellan Skarsgård Dominic Cooper Julie Walters Christine Baranski |
Cerddoriaeth | Benny Andersson Björn Ulvaeus Stig Anderson |
Sinematograffeg | Haris Zambarloukos |
Golygydd | Lesley Walker |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Universal Studios |
Dyddiad rhyddhau | 10 Gorffennaf, 2008 |
Amser rhedeg | 108 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau Y Deyrnas Unedig Yr Almaen |
Iaith | Saesneg |
Gwefan swyddogol | |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Mae Mamma Mia! The Movie ("Mamma Mia! Y Ffilm") yn addasiad llwyfan-i-ffilm o'r sioe gerdd yn y West End o'r enw Mamma Mia! (1999). Mae'r sioe yn seiliedig ar ganeuon y grŵp pop hynod lwyddiannus ABBA gyda'r gerddoriaeth ychwanegol wedi'u gyfansoddi gan Benny Andersson a oedd yn aelod o ABBA. Gwnaeth y ffilm yn arbennig o dda yn y sinemau a chafodd y penwythnos fwyaf erioed am ffilm gerddorol yn hanes yr Unol Daleithiau. Fel y sioe gerdd, tarddia deitl y ffilm o gân boblogaidd ABBA o 1975 Mamma Mia. Rhyddhawyd y ffilm gan Universal Studios mewn partneriaeth â Playtone a Littlestar.[1] Cafodd y ffilm ei rhyddhau ar 3 Gorffennaf 2008 yng Ngwlad Groeg, ar 10 Gorffennaf 2008 yn Awstralia, Seland Newydd a'r Deyrnas Unedig, ar 11 Gorffennaf 2008 yn Sweden, ar 16 Gorffennaf 2008 yn y Philippines, ar 18 Gorffennaf 2008 yn yr Unol Daleithiau a Chanada, ar 10 Medi yn Ffrainc, ar 24 Gorffennaf 2008 a 3 Hydref 2008 yn yr Eidal.[2]
Arweinia Meryl Streep cast y ffilm wrth iddi chwarae rhan mam sengl o'r enw Donna Sheridan. Mae Pierce Brosnan, Colin Firth, a Stellan Skarsgård yn chwarae rhan tri tad posib i ferch Donna, (Amanda Seyfried).
Ar 29 Awst 2008 rhyddhawyd Mamma Mia!: The Sing-Along Edition, gyda'r geiriau i'r holl ganeuon wedi'u uwch-oleuo ar y sgrîn mewn rhai theatrau.[3]