Manic Street Preachers

Manic Street Preachers
Enghraifft o:band Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Label recordioColumbia Records Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1986 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1986 Edit this on Wikidata
Genreroc amgen Edit this on Wikidata
Yn cynnwysJames Dean Bradfield Edit this on Wikidata
Offerynnau cerddgitâr, allweddell, drwm Edit this on Wikidata
Enw brodorolManic Street Preachers Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.manicstreetpreachers.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Band roc o'r Coed Duon yn Ne Cymru yw Manic Street Preachers. Ffurfiwyd y band - yn wreiddiol o'r enw 'Betty Blue'[angen ffynhonnell] - yn Ysgol Gyfun Oakdale, 1986, gan ffrindiau James Dean Bradfield, Sean Moore, Nicky Wire a Flicker (Miles Woodward). Ym 1988, gadawodd Flicker y grŵp am resymau cerddorol.

Ar ôl recordio'r sengl 'Suicide Alley' fel triawd, fe ymunodd gitarydd newydd, Richey Edwards, â'r grŵp. Er nad oedd Edwards yn gallu chwarae'r gitâr yn dda iawn, ei brif gyfraniad oedd ysgrifennu'r geiriau gyda Nicky Wire.

Ar ôl rhyddhau tri albwm rhwng 1992 a 1994, roedd y band yn dechrau poeni am iechyd Richey Edwards; roedd yn camddefnyddio alcohol, hunan-anafu ag yn dioddef o anorecsia.[angen ffynhonnell] Fe ddiflannodd Richey Edwards o'i westy yn Llundain ar y 1 Chwefror 1995. Darganfuwyd ei gar yn ymyl Pont Hafren ond nid oes neb wedi'i weld ers iddo ddiflannu.

Bron iddynt orffen y grŵp ar ôl i Edwards adael, ond ail-ffurfiwyd y band fel triawd unwaith eto. Ar ôl diflaniad Edwards, aeth y band ymlaen i fwynhau llwyddiant masnachol ar sgil llawer mwy nac yr oeddent wedi cyflawni yn eu blynyddoedd cynnar. Maent wedi rhyddhau naw albwm arall, gan gynnwys Everything Must Go (1996), This Is My Truth Tell Me Yours (1998) a aeth i #1 yn y siartiau Prydeinig yn 1998, Lifeblood (2004), a Send Away The Tigers (2007).


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne