Marc Dutroux | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Marc Paul Alain Dutroux ![]() 6 Tachwedd 1956 ![]() Ixelles ![]() |
Dinasyddiaeth | Gwlad Belg ![]() |
Galwedigaeth | trydanwr ![]() |
Priod | Michelle Martin ![]() |
Llofrudd cyfresol o Wlad Belg yw Marc Dutroux (ganwyd 6 Tachwedd 1956).
Ym 1989 cafwyd yn euog o bum achos o ymosodiad rhywiol a dedfrydwyd i garchar am 13 mlynedd, ond cafodd ei ryddhau ar ôl tair mlynedd. O 1992 hyd 1996, cipiodd a threisiodd nifer o ferched. Cyhuddwyd yr heddlu o anwybyddu gwybodaeth a chyhuddiadau yn erbyn Dutroux. Ym 1996, chwiliwyd un o'i dai a chanfwyd dwy ferch yn eu harddegau wedi'u cadw mewn cell. Ychydig o ddyddiau'n hwyrach, cafodd dwy ferch arall, wyth mlwydd oed, eu canfod wedi'u claddu mewn un o'i dai arall. Yn 2004 cafwyd Dutroux yn euog o lofruddiaeth, herwgipio, a thrais rhywiol a dedfrydwyd i garchar am oes.[1]