Marcel Duchamp | |
---|---|
Ganwyd | Henri-Robert-Marcel Duchamp 28 Gorffennaf 1887 Blainville-Crevon |
Bu farw | 2 Hydref 1968 Neuilly-sur-Seine |
Man preswyl | München, Dinas Efrog Newydd, Buenos Aires, Rouen |
Dinasyddiaeth | Ffrainc, Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, chwaraewr gwyddbwyll, arlunydd, cerflunydd, ffotograffydd, bardd, llyfrgellydd, cynllunydd, arlunydd, artist, cyfarwyddwr ffilm, athronydd, drafftsmon, gwneuthurwr printiau, artist cydosodiad |
Blodeuodd | 1965 |
Adnabyddus am | Étant donnés, L.H.O.O.Q., Nude Descending a Staircase, No. 2 |
Arddull | paentio, objet trouvé, cerfluniaeth, ffotograffiaeth, celf gysyniadol, celf ffigurol |
Mudiad | Dada, Swrealaeth, celf gysyniadol |
Tad | Justin-Isidore Eugène Duchamp |
Mam | Lucie Duchamp |
Priod | Teeny Matisse, Lydie Sarazin-Levassor |
Partner | Gabrièle Buffet-Picabia, Maria Martins |
Plant | Yo Savy |
Perthnasau | Émile Frédéric Nicolle |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Ffrainc |
Arlunydd, cerflunydd, llenor a chwaraewr gwyddbwyll o Ffrainc a'r Unol Daleithiau oedd Marcel Duchamp (28 Gorffennaf 1887 – 2 Hydref 1968). Un o arloeswyr pwysicaf celfyddyd fodern hanner cyntaf yr 20g, yn gysylltiedig gyda Dada, Dyfodoliaeth (Futurism), Swrealaeth a Chelf Ddamcaniaethol (conceptual art).[1][2][3]
Gyda Pablo Picasso ac Henri Matisse mae Duchamp yn cael ei gyfrif fel un o'r tri artist arloesol a ddiffiniodd y newidiadau chwyldroadol yn y byd celf yn ystod degawdau cyntaf yr 20g. [4][5][6][7]
Er dim mor enwog â Picasso, bu gwaith arloesol Duchamp yn hynod o bwysig i gelfyddyd avant garde. Gwrthododd Duchamp waith Matisse a llawer o arlunwyr eraill fel rhywbeth a oedd ond ar gyfer y llygaid yn lle'r meddwl.[8]