Margaret Thatcher | |
---|---|
Llais | Prime Minister Margaret Thatcher's Joint Statement, 10th G7 summit.ogg |
Ganwyd | Margaret Hilda Roberts 13 Hydref 1925 Grantham |
Bu farw | 8 Ebrill 2013 o strôc The Ritz London |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, cemegydd, hunangofiannydd, bargyfreithiwr, gwladweinydd |
Swydd | Arweinydd yr Wrthblaid, President of the European Council, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Arweinydd y Blaid Geidwadol, Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, Shadow Secretary of State for Environment, Food and Rural Affairs, Parliamentary Secretary to the Minister for Pensions, Chancellor of the College of William & Mary, President of the European Council, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Shadow Secretary of State for Education, Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil, Prif Arglwydd y Trysorlys, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, president of the Oxford University Conservative Association |
Taldra | 1.66 metr, 165 centimetr |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Alfred Roberts |
Mam | Beatrice Ethel Stephenson |
Priod | Denis Thatcher |
Plant | Mark Thatcher, Carol Thatcher |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Urdd y Gardas, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Urdd y Llew Gwyn, Gwobr Ryddid Ronald Reagan, Grand Order of King Petar Krešimir IV, Dostyk Order of grade I, Order of Good Hope, Uwch Groes Urdd Vytautas Fawr, Prif Urdd y Brenin Dmitar Zvonimir, Fellow of the Royal Institute of Chemistry, dinesydd anrhydeddus Zagreb, Clare Boothe Luce Award, doethuriaeth anrhydeddus Prifysgol Hofstra, honorary doctor of the Bar-Ilan University, Person y Flwyddyn y Financial Times, honorary citizen of Gdańsk, Urdd y Goron Werthfawr, Dosbarth 1af, Urdd Sant Ioan, Order of Vytautas the Great, Urdd Brenhinol Francis I |
Gwefan | http://margaretthatcher.org |
Prif Weinidog Ceidwadol y Deyrnas Unedig rhwng 1979 a 1990, a'r ddynes gyntaf i ddal y swydd, oedd Margaret Hilda Thatcher (née Roberts) (13 Hydref 1925 – 8 Ebrill 2013). Hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn Brif Weinidog Prydain yn ogystal â bod y fenyw gyntaf yn Ewrop i gael ei hethol yn Brif Weinidog. Daeth yn adnabyddus am ei pholisïau Thatcheraidd a oedd yn medru hollti barn ac am ei phersonoliaeth benderfynol ac awdurdodol.[1][2][3]
Daeth yn Aelod Seneddol dros Finchley yn Llundain yn 1959 ac yn 1970 fe’i penodwyd gan Edward Heath yn Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Gwyddoniaeth. Yn 1975 trechodd Edward Heath yn ei ymgais i fod yn arweinydd y Ceidwadwyr ac felly etholwyd hi yn arweinydd yr wrthblaid yn erbyn Llywodraeth Lafur Harold Wilson ac yna Jim Callaghan. Arweiniodd Margaret Thatcher y Ceidwadwyr am 15 mlynedd nes iddi ymddiswyddo yn 1990.
Mae’r syniadau gwleidyddol a fabwysiadodd tra'r oedd mewn grym yn cael eu hadnabod fel ‘Thatcheriaeth’ a daeth hi i gael ei hadnabod fel y ’Ddynes Ddur’. Arweiniodd y Ceidwadwyr i bŵer yn Etholiad Cyffredinol 1979 wrth ennill buddugoliaeth dros y Blaid Lafur a oedd mewn grym o dan arweiniad James Callaghan.
Roedd yn benderfynol o ymestyn yr egwyddor o farchnad rydd[4], ac yn gefnogol i feddylfryd mentergarwch ac entrepreneuraidd. Roedd yn awyddus i symud pobl i ffwrdd o'u dibyniaeth ar y Llywodraeth a’r Wladwriaeth Les. Roedd hi eisiau i unigolion fod yn fwy annibynnol a dibynnol ar ei allu ei hun yn hytrach na dibynnu ar gymorth oddi wrth y Llywodraeth. Dangoswyd hyn pan werthodd y Llywodraeth ei stoc o dai cyngor ar ddiwedd y 1980au i denantiaid y tai - cyfanswm o tua 1.5 miliwn o dai. Yn ystod ei llywodraeth hi, cafodd llu o wasanaethau cyhoeddus a diwydiannau a wladolwyd gan lywodraethau Llafur, gan gynnwys y rheilffyrdd, dŵr, trydan, nwy, olew, glo a dur eu preifateiddio. Roedd hi'n rhoi pwyslais ar sicrhau bod gwariant cyhoeddus ar wasanaethau fel iechyd ac addysg yn cael eu gwneud yn fwy atebol i’r Llywodraeth.
Daeth yn symbol o'r gwrthdaro rhwng y chwith a'r dde yng ngwledydd Prydain, yn enwedig yn ystod Streic y Glowyr (1984–5). Cymaint oedd ei dylanwad hi fel y llwyddodd i weddnewid gwleidyddiaeth Prydain yn gyfan gwbl, gan baratoi'r ffordd ar gyfer Llafur Newydd.
Erbyn diwedd ei chyfnod fel Prif Weinidog roedd wedi cyrraedd y garreg filltir o fod y Prif Weinidog a oedd wedi bod mewn grym am y cyfnod hiraf yn hanes Prydain a’r Prif Weinidog cyntaf ers dros 150 o flynyddoedd i ennill cyfres o dri etholiad cyffredinol - yn 1979, 1983 ac 1987.[2][3]