Marged Tudur | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 28 Tachwedd 1489 ![]() Llundain ![]() |
Bu farw | 18 Hydref 1541 ![]() Castell Methven ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | rhaglyw ![]() |
Tad | Harri VII ![]() |
Mam | Elisabeth o Efrog ![]() |
Priod | James IV, Archibald Douglas, 6ed Iarl Angus, Henry Stewart, Arglwydd 1af Methven ![]() |
Plant | James, Dug Rothesay, Arthur Stewart, Dug Rothesay, Iago V, brenin yr Alban, Alexander Stewart, Dug Ross, Margaret Douglas, merch ddienw Stewart, mab dienw Stewart, Dorothea Stewart ![]() |
Llinach | Tuduriaid ![]() |
Merch Harri VII, brenin Lloegr, a chwaer Harri VIII oedd Margaret Tudur neu Marged Tudur (28 Tachwedd 1489 – 18 Hydref 1541) a oedd yn Frenhines yr Alban rhwng 1503 ac 1513. Fe'i ganwyd ym Mhalas San Steffan yn ferch hynaf i Harri ac Elisabeth o Efrog.
Priododd Margaret James IV pan oedd yn 13 oed, yn unol â'r 'Cytundeb Heddwch Parhaol rhwng Lloegr a'r Alban'. Gyda'i gilydd, cawsant chwech o blant, er mai dim ond un ohonynt a fu byw i fod yn oedolyn. Yn dilyn marwolaeth Iago IV ym Mrwydr Flodden ym 1513, penodwyd Margaret, fel brenhines mewn gofal, yn rhaglaw i'w mab James V. Wrth chwilio am gynghreiriaid, trodd Margaret at y Douglases, ac ym 1514 priododd Archibald Douglas, 6ed Iarll Angus, yr oedd ganddi un ferch, Margaret Douglas.
Roedd yn famgu i Mari I, brenhines yr Alban drwy ei phriodas gynaf.