Marianne Faithfull | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 29 Rhagfyr 1946 ![]() Hampstead ![]() |
Bu farw | 30 Ionawr 2025 ![]() Llundain ![]() |
Label recordio | Decca Records, Deram Records, Island Records ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, actor ffilm, artist recordio, actor ![]() |
Adnabyddus am | Broken English ![]() |
Arddull | cerddoriaeth roc, jazz lleisiol, cerddoriaeth boblogaidd, roc amgen, Canu gwerin, y felan ![]() |
Math o lais | contralto ![]() |
Taldra | 1.65 metr ![]() |
Tad | Robert Glynn Faithfull ![]() |
Mam | Eva von Sacher-Masoch ![]() |
Priod | John Dunbar, Ben Brierley, Giorgio Della Terza ![]() |
Partner | Mick Jagger, François Ravard ![]() |
Plant | Nicholas Dunbar, Corrina Jagger ![]() |
Gwobr/au | Commandeur des Arts et des Lettres ![]() |
Gwefan | http://www.mariannefaithfull.org.uk/ ![]() |
llofnod | |
![]() |
Cantores ac actores o Loegr oedd Marianne Evelyn Gabriel Faithfull (29 Rhagfyr 1946 – 30 Ionawr 2025), yn fwyaf adnabyddus am ei chysylltiad â The Rolling Stones. Gyda'i sengl 1964, "As Tears Go By", daeth hi'n un o'r prif artistiaid benywaidd yn ystod Goresgyniad Prydain yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd Faithfull ei geni yn Hampstead, Llundain, a dechreuodd ei gyrfa yn 1964 ar ôl mynychu parti ar gyfer y Stones, lle cafodd ei chyflwyno i Andrew Loog Oldham. Roedd ei halbwm cyntaf Marianne Faithfull (1965), yn llwyddiant masnachol ac yna nifer o albymau ar Decca Records.
Ym 1965 daeth yn feichiog o ganlyniad i berthynas â'r canwr Americanaidd Gene Pitney[1]. Cafodd erthyliad. Rhwng 1966 a 1970, cafodd berthynas â Mick Jagger. Ymddangosodd mewn ffilmiau fel I'll Never Forget What's'isname (1967), The Girl on a Motorcycle (1968) a Hamlet (1969).
Yn 1979, wedi priodi y cerddor Ben Brierly, dychwelodd gyda'r albwm Broken English, a gafodd lawer o glod.[2]
Bu farw yn 78 oed.[3]