Marilyn (mynydd)

Copa Mynydd Anelog - Marilyn diweddaraf Cymru
Marilyn yn yr Alban

Bryn neu fynydd ydy Marilyn - wedi'i leoli yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon - a gydag uchder cymharol o o leiaf 150 metr, waeth pa mor uchel ydy'r copa. Bathwyd y term fel gair mwys i gyferbynnu â'r term a ddefnyddir yn yr Alban: Munro.

Ceir 2,010 Marilyn: 1,216 yn yr Alban, 455 yn Iwerddon, 176 yn Lloegr, 5 yn Ynys Manaw a 159 yng Nghymru (yn cynnwys Mynydd Anelog[1]). Arferid cyfri'r Mynydd Du yn Lloegr ac yng Nghymru ond mae bellach yn cael ei gyfri yng Nghymru yn unig.[2] Mae mynyddoedd Eryri'n cael eu gosod yn y dosbarth hwn o fynyddoedd a chopaon.

Casglwyd y rhestr gan Alan Dawson yn ei lyfr 'The Relative Hills of Britain' ond mae'r rhestr hon yn cael ei diweddaru'n aml.

Dosbarth Uchder
Munro 3000+ tr 914+ metr
Corbett 2500 – 3000 tr 762 – 914 m
Graham 2000–2500 tr 610 – 762 m
Marilyn (mynydd) –2000 tr –610 m
  1. "Arolwg uchder Mynydd Anelog" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2024-05-11. Cyrchwyd 2013-12-08.
  2. "Update to The Relative Hills of Britain, 2006". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-10-04. Cyrchwyd 2011-02-06.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne