Newyddiadurwraig a chynhyrchydd teledu Rwsiaidd yw Marina Ovsyannikova (Rwseg: Марина Овсянникова, née Tkachuk; ganwyd 1978),[1] sy'n gweithio ar yr ail sianel fwyaf poblogaidd yn Rwsia.[2] Yn 2022 torrodd ar draws darllediad newyddion teledu Rwsiaidd a reolir gan y wladwriaeth i brotestio yn erbyn goresgyniad Rwsia ar Wcráin.
Ganed Ovsyannikova yn Odesa, yn ferch i mam Rwsieg a thad Wcreineg.[3] Graddiodd Ovsyannikova o Brifysgol Talaith Kuban ac yn ddiweddarach o Academi Arlywyddol Rwsia ar gyfer yr Economi Genedlaethol a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Bu'n gweithio i Gwmni Darlledu Teledu a Radio Talaith Gyfan Rwsia. Yn 2002 rhoddodd gyfweliad i wefan newyddion Yuga.ru.[1][4][5]