Marina Popovich | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 20 Gorffennaf 1931 ![]() Velizhsky District ![]() |
Bu farw | 30 Tachwedd 2017 ![]() Krasnodar ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Addysg | Doethuriaeth Nauk mewn Peirianneg ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hedfanwr, llenor, peilot prawf, peiriannydd ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd ![]() |
Priod | Pavel Popovich ![]() |
Gwobr/au | Urdd Baner Coch y Llafur, Urdd y Bathodyn Anrhydedd, Meistr Anrhydeddus Chwaraeon, CCCP, Medal Jiwbili "I Goffáu 100fed Pen-blwydd Geni Vladimir Ilyich Lenin" (10 gair / words), Medal Jiwbilî "50 Mlynedd o Luoedd Arfog yr Undeb Sofietaidd", Medal Jiwbilî "60 Mlynedd o Luoedd Arfog yr Undeb Sofietaidd", Medal Jiwbilî "70 Mlynedd o Luoedd Arfog yr Undeb Sofietaidd", Medal"Am Wasanaeth Arbennig", Medal Jiwbili "20 Mlynedd ers Buddugoliaeth Rhyfel Gwladgarol 1941–1945", Medal Llafur y Cynfilwyr, Medal "I gofio 850fed Pen-blwydd Moscaw, Medal"Yn Coffáu 1500 mlynedd Pen-blwydd Kiev", Cymhwyster dosbarth milwrol y peilot, Medal "For Impeccable Service", 3rd class, Medal "For Impeccable Service", 2nd class ![]() |
Awdur o Rwsia oedd Marina Lavrentievna Popovich (20 Gorffennaf 1931 - 30 Tachwedd 2017) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awyrenwr, peilot-prawf a pheiriannydd. Roedd yn gyrnol yn awyrlu Rwsia, ac yn 1964 hi oedd y ferch gyntaf o Rwsia i hedfan drwy'r mur sain.
Ganed Marina Lavrentievna Vasiliyeva yn Rhanbarth Velizhsky (Rwsieg: Ве́лижский райо́н) ffin gorllewinol eithaf Rwsia, a bu farw yn Krasnodar, ychydig i'r de o'i man geni. Cafodd gladdedigaeth wladwriaethol yn y 'Mynwent Coffa, Milwrol, Ffederal' ym Moscfa. Mae'n awdur ar naw llyfr a gelwyd seren yng nghytser Cancer ar ei hôl.[1]
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Hedfan Sifil y Wladwriaeth, St Petersburg. Priododd Pavel Popovich. Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd.
Oherwydd ei gwaith ar y MiG, sef math arbennig o awyren cyflym, a elwir yn fighter jet, gelwid hi yn "Madame MiG".[2] Torrodd dros gant record yn y byd hedfan, gyda 40 math gwahanol o awyren.[2][3]