Mario Puzo | |
---|---|
Mario Puzo mewn parti yn Efrog Newydd ym Mawrth 1972, y noson cyn dangos y ffilm The Godfather am y tro cyntaf yn Loew's State Theatre. | |
Ffugenw | Mario Cleri |
Ganwyd | 15 Hydref 1920 Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 2 Gorffennaf 1999 o ataliad y galon Long Island |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | nofelydd, sgriptiwr, llenor, awdur ffuglen wyddonol, diplomydd |
Adnabyddus am | The Godfather |
Arddull | ffuglen dditectif |
Prif ddylanwad | Honoré de Balzac |
Priod | Erika Puzo |
Plant | Dorothy Ann Puzo |
Gwobr/au | Gwobr Urdd Awduron America, Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Addasedig, Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Addasedig, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau |
Gwefan | http://mariopuzo.com |
llofnod | |
Nofelydd a sgriptiwr o'r Unol Daleithiau oedd Mario Puzo (15 Hydref 1920 – 2 Gorffennaf 1999) sydd yn nodedig am ei nofel The Godfather (1969), am gyd-ysgrifennu'r sgriptiau i'r addasiadau ffilm The Godfather (1972) a The Godfather Part II (1974), ac am sgriptio'r ffilmiau Superman (1978) a Superman II (1980).
Ganed yn Efrog Newydd i fewnfudwyr Eidalaidd o Napoli, a roedd ganddo 11 o frodyr a chwiorydd. Gweithiodd ei dad yn gosod cledrau i Reilffordd Ganolog Efrog Newydd. Cafodd Mario ei fagu yn ardal Hell's Kitchen, Manhattan, ac wedi i'w dad adael y teulu pan oedd yn 12 oed bu'n rhaid i'w fam slafio i amddiffyn y plant rhag cyni'r slymiau. Gwasanaethodd Mario ym Myddin yr Unol Daleithiau yn yr Ail Ryfel Byd. Priododd Mario Puzo ag Almaenes o'r enw Erika Broske ym 1946, a chawsant dri mab a dwy ferch.
Gweithiodd Puzo fel clerc mewn swyddfa lywodraethol, ac ysgrifennai erthyglau a straeon byrion ar ei liwt ei hun. Derbyniodd rywfaint o glod am ei ddwy nofel gyntaf, The Dark Arena (1955) a The Fortunate Pilgrim (1965), ond nid fawr o lwyddiant. Pan oedd Puzo oddeutu 45 oed, roedd yn benderfynol o ysgrifennu llyfr a digon o fynd arno i ad-dalu ei ddyledion, a oedd wedi cyrraedd $20,000. Gydag ychydig o wybodaeth am dor-cyfraith cyfundrefnol o ganlyniad i'w flynyddoedd yn gamblo, ysgrifennodd nofel am y Maffia, yn canolbwyntio ar y teulu Corleone. Derbyniodd flaenswm o $5000 am The Godfather, a gyhoeddwyd ym 1969. Yn sgil llwyddiant ysgubol y llyfr, enillodd Puzo un miliwn o ddoleri a mwy o werthiannau yn ogystal â gwerthu'r hawliau i gyhoeddi'r llyfr yn rhyngwladol, i argraffu'r clawr papur, ac i addasu'r stori yn ffilm.[1] Cydweithiodd Puzo â Francis Ford Coppola i addasu ei stori ar gyfer y sgrin fawr. Enillodd Puzo a Coppola Wobr yr Academi am y Sgript Addasedig Orau ddwywaith, am The Godfather a The Godfather Part II.
Cafodd Puzo ei swyno gan gyffro a chyfaredd Hollywood, heb sôn am fyd y gamblo, ac ysgrifennodd ragor o sgriptiau, gan gynnwys y ddwy ffilm gyntaf yng nghyfres Superman, a The Cotton Club (1984). Bu farw ei wraig Erika ym 1978, a Carol Gino oedd ei gariad am ugain mlynedd olaf ei oes.[1] Ymhelaethodd Puzo ar stori epig y teulu Corleone yn The Sicilian (1984), dilyniant i The Godfather, sydd yn ymwneud â'r bandit go iawn Salvatore Giuliano. Traethir hanes teulu Maffia arall yn The Last Don (1996), ei nofel olaf a gyhoeddwyd yn ystod ei oes.
Bu farw Mario Puzo yn ei gartref yn Bay Shore, Long Island, yn nhalaith Efrog Newydd, yn 78 oed, o fethiant y galon.[2] Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd Omertà (2000), stori arall am y Maffia, a The Family (2001), nofel hanesyddol am y Pab Alecsander VI a'r teulu Borgia.