Mark Rylance

Mark Rylance
LlaisMark Rylance voice.ogg Edit this on Wikidata
Ganwyd18 Ionawr 1960 Edit this on Wikidata
Ashford Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdramodydd, actor llwyfan, actor ffilm, cyfarwyddwr theatr, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodClaire van Kampen Edit this on Wikidata
PerthnasauJuliet Rylance Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Laurence Olivier, Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr Deledu yr Academi Brydeinig am Actor Gorau, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Marchog Faglor, Gwobr Drama Desk ar gyfer Actor Eithriadol mewn Drama, Drama League Award, Sam Wanamaker Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.markrylance.co.uk/ Edit this on Wikidata

Mae David Mark Rylance Waters (ganed 18 Ionawr 1960) yn actor, cyfarwyddwr theatr a dramodydd o Loegr. Ef oedd cyfarwyddwr artistig cyntaf Glôb Shakespeare yn Llundain, o 1995 i 2005. Cynhwysa ei ymddangosiadau ffilm Prospero's Books (1991), Angels and Insects (1995), Institute Benjamenta (1996), ac Intimacy (2001). Enillodd Rylance Wobr yr Academi a Gwobr BAFTA ar gyfer yr Actor Cefnogol Gorau yn dilyn ei berfformiad fel Rudolf Abel yn Bridge of Spies (2015). Yn 2016 serenna yn y rôl deitl yn ffilm Steven Spielberg The BFG, addasiad acsiwn-byw o'r llyfr plant gan Roald Dahl.

Gwnaeth Rylance ei ddebut proffesiynol yn Theatr y Citizens, Glasgow yn 1980. Aeth yn ei flaen i ennill y Wobr Olivier ar gyfer yr Actor Gorau ar gyfer Much Ado About Nothing yn 1994 a Jerusalem yn 2010, a'r Wobr Tony ar gyfer yr Actor Gorau mewn Drama ar gyfer Boeing Boeing yn 2008 a Jerusalem yn 2011. Enillodd trydedd gwobr Tony yn 2014 ar gyfer Twelfth Night. Ar deledu, enillodd y Wobr BAFTA TV ar gyfer yr Actor Gorau ar gyfer ei rôl fel David Kelly yn nrama 2005 Channel 4 The Government Inspector a fe'i enwebwyd ar gyfer Gwobrau Emmy, Golden Globe and Screen Actors Guild ar gyfer chwarae Thomas Cromwell ym mini-gyfres 2015 BBC Two Wolf Hall.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne