Mark Ronson

Mark Ronson
GanwydMark Daniel Ronson Edit this on Wikidata
4 Medi 1975 Edit this on Wikidata
Notting Hill Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain, Los Angeles, Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Label recordioAllido Records, Columbia Records, Roc Nation Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Vassar
  • Ysgol Gelf Tisch, UDA
  • Collegiate School Edit this on Wikidata
Galwedigaethtroellwr disgiau, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd recordiau, gitarydd, canwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, cyfoes R&B Edit this on Wikidata
PriodJoséphine de La Baume, Grace Gummer Edit this on Wikidata
PartnerRashida Jones Edit this on Wikidata
PerthnasauGerald Ronson Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau, Golden Globe Award for Best Original Song, Gwobr Gammy Cynhyrchydd y Flwyddyn, nid Clasurol Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://markronson.co.uk Edit this on Wikidata

Mae Mark Daniel Ronson (ganwyd 4 Medi 1975) yn artist, cynhyrchydd cerddoriaeth a chyd-sylfaenydd Recordiau Allido. Daw o Loegr ac mae wedi ennill Gwobr y BRITs a Gwobr Grammy deirgwaith. Canolbwyntiodd ei albwm cyntaf, Here Comes the Fuzz, ar hip hop Americanaidd. Er gwaethaf y ffaith iddo gyd-weithio â Sean Paul, Nate Dogg a Ghostface Killah, ni gafodd fawr o lwyddiant yn y siart.

Canolbwyntiodd ei ail albwm, Version ar y sîn gerddorol Brydeinig ac yn cynnwys fersiynau newydd o ganeuon bandiau fel Radiohead, Maximo Park, The Smiths, Amy Winehouse, The Zutons a'r Kaiser Chiefs. Mae'r albwm yn cynnwys tair cân a gyrhaeddodd y deg uchaf yn y siart ac enillodd Ronson Wobr BRIT am yr Artist Gwrywaidd Gorau yn 2008. Ef yw'r person cyntaf i beidio a chanu ar y recordiad i ennill Gwobr Brit.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne