Math | dinas fawr, dinas â phorthladd, cymuned, tref goleg |
---|---|
Poblogaeth | 877,215 |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth | Benoît Payan |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bouches-du-Rhône |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 240.62 km² |
Uwch y môr | 6 metr, 0 metr, 648 metr |
Gerllaw | Bay of Marseille, Gulf of Lion |
Yn ffinio gyda | Allauch, Aubagne, Cassis, La Penne-sur-Huveaune, Les Pennes-Mirabeau, Plan-de-Cuques, Le Rove, Septèmes-les-Vallons, Simiane-Collongue |
Cyfesurynnau | 43.2967°N 5.3764°E |
Cod post | 13000, 13001, 13002, 13004, 13003, 13005, 13006, 13007, 13008, 13009, 13010, 13011, 13012, 13013, 13014, 13015, 13016 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Marseille |
Pennaeth y Llywodraeth | Benoît Payan |
Dinas ail fwyaf Ffrainc yw Marseille (Ocsitaneg Marselha) gyda phoblogaeth o 1,349,772. Mae yng nghyn-dalaith Provence ger Môr y Canoldir. Marseille yw porthladd mwyaf Ffrainc a phrifddinas région Provence-Alpes-Côte d'Azur a département Bouches-du-Rhône.
Sefydlwyd Marseille tua 600 CC gan Roegiaid gynt o Phocaea dan yr enw Massalia (Μασσαλία). Roedd yn ganolfan fasnachu bwysig a thyfodd yn gyflym. Daeth dan fygythiad gan gynghrair yr Etrwsgiaid, Carthago a'r Celtiaid, a throdd at y Rhufeiniaid am gymorth. Daeth yn ddinas bwysig iawn yn y cyfnod Rhufeinig, ac wedi cyfnod o ddirywiad yn dilyn cwymp yr ymerodraeth roedd wedi ad-ennill ei phwysigrwydd erbyn y 10fed ganrif.
Rhoddodd y ddinas ei henw i anthem genedlaethol Ffrainc, "La Marseillaise", a gafodd ei chanu am y tro cyntaf gan filwyr Marseille oedd wedi dod i Baris i gefnogi'r Chwyldro Ffrengig.
Yn y 1970au effeithiwyd ar Marseille gan broblemau economaidd, ac arweiniodd diweithdra uchel, lefel uchel o droseddu a chanran uchel o fewnfudwyr, yn enwedig o Ogledd Affrica, at gynnydd mewn cefnogaeth i bleidiau'r dde eithafol. Mae'r sefyllfa economaidd wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf.