Martin McGuinness | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Martin Pacelli McGuinness ![]() 23 Mai 1950 ![]() Derry ![]() |
Bu farw | 21 Mawrth 2017 ![]() o amyloidosis ![]() Altnagelvin Area Hospital ![]() |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Minister of Education, Dirprwy Brif Weinidog, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Member of the 5th Northern Ireland Assembly, Member of the 4th Northern Ireland Assembly, Member of the 3rd Northern Ireland Assembly, Member of the 2nd Northern Ireland Assembly, Member of the 1st Northern Ireland Assembly, Member of the 1982–1986 Northern Ireland Assembly ![]() |
Plaid Wleidyddol | Sinn Féin ![]() |
Gwefan | https://www.thepeoplespresident.ie/ ![]() |
Gwleidydd a chenedlaetholwr Sinn Féin oedd James Martin Pacelli McGuinness, Gwyddeleg: Máirtín Mag Aonghusa[1] (23 Mai 1950 - 21 Mawrth 2017) a oedd o fai 2007 hyd at Fawrth 2017 yn Ddirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon.
Ganed Martin McGuinness yn Derry.
Bu'n Aelod Seneddol dros etholaeth Canol Ulster, hen sedd Bernadette Devlin McAliskey, dros Sinn Féin, rhwng 1997 a 2013, ond yn unol a pholisi ei blaid, ni lanwodd ei sedd yn San Steffan. Cafodd ei ethol i Gynulliad Gogledd Iwerddon dros Ganol Ulster yn 1998 a chynrychiolodd yr etholoaeth honno yn y Cynulliad tan 2016. Yn 2016 safodd dros etholaeth Foyle, ei etholaeth enedigol - a bu'n cynrychioli'r etholaeth honno hyd at ei farwrolaeth yn 2017.
Cyn troi'n wleidydd bu'n un o arweinyddion yr IRA[2]. Yn dilyn Cytundeb St Andrews rhwng y pleidiau yng Ngogledd Iwerddon, ac etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon yn 2007, daeth yn Ddirprwy Brif Weinidog ar 8 Mai 2007. Bu'n gyfrifol am addysg yng Ngogledd Iwerddon rhwng 1999 a 2002.