Martin Walser | |
---|---|
Ganwyd | Martin Johannes Walser 24 Mawrth 1927 Wasserburg (Bodensee) |
Bu farw | 26 Gorffennaf 2023 Überlingen |
Dinasyddiaeth | Bafaria, Gorllewin yr Almaen, yr Almaen |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, dramodydd, sgriptiwr, newyddiadurwr |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Marriage in Philippsburg, Runaway Horse |
Plaid Wleidyddol | Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol |
Priod | Katharina Neuner-Jehle |
Partner | Corinne Pulver |
Plant | Alissa Walser, Franziska Walser, Johanna Walser, Theresia Walser, Jakob Augstein |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Gwobr Georg Büchner, Urdd Teilyngdod Baden-Württemberg, Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Hermann-Hesse, Gwobr Gerhart Hauptmann, Gwobr Goffa Schiller, Alemannischer Literaturpreis, Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Friedrich-Schiedel-Literaturpreis, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, gwobr llenyddiaeth academi y celfyddydau cainBafaria, Friedrich Nietzsche Prize, Gwobr Franz-Nabl, Medal Carl Zuckmayer, Gwobr Ricarda-Huch, Gwobr Lenyddiaeth Bodensee, Gwobr Friedrich-Hölderlin, Pour le Mérite, Honorary Award of the Heinrich Heine Society |
llofnod | |
Awdur cyfoes o'r Almaen yw Martin Walser (24 Mawrth 1927 – 26 Gorffennaf 2023).[1][2][3] Yn aml ceir gwrth-arwr yn ei nofelau. Enillodd sawl gwobr Almaeneg yn cynnwys Gwobr Heddwch Frankfurt ym 1998. Fe'i anwyd yn Wasserburg am Bodensee, ar y Bodensee (llyn Constance). Roedd ei rieni yn cadw tafarn a hefyd yn gwerthu glo. Aeth i'r ysgol uwchradd yn Lindau o 1938 i 1943 - Daeth yn aelod gorfodol o'r Blaid Nazi yn Ebrill 1944 yn 17 oed ac roedd rhaid iddo wasanaethu yn y Wehrmacht (byddin yr Almaen) ym mlwyddyn olaf y rhyfel. Wedi'r rhyfel aeth yn ôl i astudio a gwnaeth Radd Hanes a Llên ym Mhrifygolion Regensburg a Tübingen. Cwblhaodd thesis ar Franz Kafka ym 1951 cyn droi yn ysgrifennwr i'r radio efo Süddeutscher Rundfunk.
Priodwyd Katharina "Käthe" Neuner-Jehle ym 1950, ac mae ganddynt pedair merch, i gyd yn eithaf enwog ym myd celf yr Almaen. Mae plentyn siawns, mab, Jakob Augstein, ganddo fo hefyd ar ôl perthynas efo'r gyfieithwraig Maria Carlsson. Mae'n aelod o'r Gruppe 47 o awduron ifanc wedi'r rhyfel. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf 'Ehen in Philippsburg' ym 1957. Ei waith enwocaf yw Ein fliehendes Pferd (Ceffyl ar ffoi), 1978, sydd ar restr darllen yr ysgolion yn yr Almaen.
Mae hefyd yn aelod o Akademie der Künste (Academi'r celfyddydau) ym Merlin, a'r Deutsche Akademie für Sprache und Dichtung (Academi Almaeneg am Lên a Barddoniaeth). Cyfieithwyd ei waith i Saesneg ac i Sbaeneg yn arbennig.