Mary Wilson | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 6 Mawrth 1944 ![]() Greenville ![]() |
Bu farw | 8 Chwefror 2021 ![]() Las Vegas ![]() |
Man preswyl | Las Vegas, Chicago, Detroit ![]() |
Label recordio | Motown Records ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | canwr, hunangofiannydd, cyfarwyddwr ffilm ![]() |
Arddull | rhythm a blŵs, cerddoriaeth yr enaid, cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth ddawns, disgo, ffwnc ![]() |
Math o lais | contralto ![]() |
Gwefan | http://www.marywilson.com/ ![]() |
Roedd Mary Wilson (6 Mawrth 1944 – 8 Chwefror 2021) yn gantores Americanaidd, sy'n fwyaf adnabyddus am sefydlu'r grŵp merched The Supremes.[1]
Cafodd Wilson ei geni yn Greenville, Mississippi, yn ferch i Sam a Johnnie Mae Wilson. Priododd y dyn busnes Pedro Ferrer yn Las Vegas, Nevada ar 11 Mai 1974. Roedd ganddyn nhw dri o blant: Turkessa, Pedro Antonio, a Rafael. Fe wnaethant ysgaru ym 1981. Bu farw Rafael mewn damwain car, yn 14 oed; anafwyd Mary yn yr un ddamwain.[2]
Bu farw Mary Wilson yn Henderson, Nevada, yn 76 oed.[3]