Masnach mewn caethweision Affricanaidd a gludwyd ar draws Cefnfor yr Iwerydd o'r 16g hyd y 19g oedd masnach gaethweision yr Iwerydd. Gelwir hefyd yn "y fasnach drionglog" am iddi ddigwydd ar dri llwybr: teithiodd masnachwyr Ewropeaidd i Orllewin Affrica i gyfnewid nwyddau am gaethweision; cludwyd y caethweision i'r Byd Newydd i'w gwerthu a'u gorfodi i weithio; a chludwyd y nwyddau a dyfwyd neu gynhyrchwyd gan y caethweision i Ewrop.
Cyfnewidiodd masnachwyr Ewropeaidd rỳm, potiau haearn, gleiniau, drylliau a nwyddau eraill am gaethweision. Cafodd y caethweision eu harchwilio a'u gwerthu mewn masnachoedd ar arfordiroedd Gorllewin Affrica. Roedd y fasnach yn hwb economaidd i ymerodraethau Portiwgal, Prydain, Ffrainc, Sbaen, a'r Iseldiroedd. Roedd caethweision yn yr Unol Daleithiau, y Caribî a Brasil yn gweithio ar ffermydd a chaeau cotwm, tybaco, a siwgr. Cafodd cotwm crai a nwyddau eraill eu cludo i Ewrop. Cludwyd hefyd rhai caethweision i Ewrop i weithio yno fel adeiladwyr neu weision.
Cafodd y caethweision eu trin yn greulon, a buont yn dianc ac yn gwrthryfela'n aml. Cafodd eu cludo ar draws y môr mewn amodau gwael a chyfyng iawn, a bu farw nifer ohonynt yn ystod y daith. Cafodd eu clymu gan efynnau ac wrth eu gyddfau gan garrai lledr. Roeddent yn dioddef chwipio a chosbau corfforol eraill, a chafodd nifer o'r menywod eu treisio gan eu meistri. Ysgrifennodd cyn-gaethweision megis Olaudah Equiano am eu profiad. Ymdrechodd William Wilberforce a'r diddymwyr i ddod â'r fasnach i ben. Daeth gaethwasiaeth yn anghyfreithlon yng ngwledydd Prydain ym 1807, daeth y fasnach i ben ym 1833, a daeth caethwasiaeth i ben ar draws yr holl Ymerodraeth Brydeinig ym 1838. Gwnaed caethwasiaeth yn anghyfreithlon yn y mwyafrif o daleithiau gogleddol yr Unol Daleithiau yn y 1790au, ond roedd dymuniad taleithiau'r de i gynnal y system yn brif achos Rhyfel Cartref America ym 1861. Enillodd y gogledd y rhyfel hwnnw a daeth caethwasiaeth yn y wlad honno i ben.