Math | masnach ryngwladol |
---|
Y fasnach wastraff fyd-eang yw'r fasnach trin gwastraff ryngwladol rhwng gwledydd, ei gasglu, ei symud a'i waredu neu ei ailgylchu ymhellach. Mae gwastraff gwenwynig neu beryglus yn aml yn cael ei fewnforio o wledydd cyfoethog i wledydd sy'n datblygu.
Mae Adroddiad Banc y Byd Beth yw Gwastraff: Adolygiad Byd-eang o Reoli Gwastraff Solet, yn disgrifio faint o wastraff solat a gynhyrchir mewn gwlad benodol, gyda'r gwledydd sy'n cynhyrchu mwy o wastraff solet yn fwy datblygedig yn economaidd ac yn fwy diwydiannol.[1] Mae'r adroddiad yn esbonio: "Yn gyffredinol, po uchaf yw'r datblygiad economaidd a'r gyfradd drefoli, y mwyaf o wastraff solet a gynhyrchir."[1] Felly, mae gwledydd yn y Gogledd Byd-eang, sy'n fwy datblygedig yn economaidd ac yn drefol, yn cynhyrchu mwy o wastraff solet na gwledydd De Byd-eang.[1]
Mae’r llifau gwastraff masnach rhyngwladol presennol yn dilyn patrwm o wastraff sy’n cael ei gynhyrchu yn y Gogledd Byd-eang ac yn cael ei allforio a’i waredu yn y De Byd-eang. Ceir nifer o ffactorau sy'n effeithio ar ba wledydd sy'n cynhyrchu gwastraff a faint, lleoliad daearyddol, graddau diwydiannu, a lefel integreiddio i'r economi fyd-eang.
Mae nifer o ysgolheigion ac ymchwilwyr wedi cysylltu'r cynnydd sydyn mewn masnachu gwastraff (ac effeithiau negyddol masnachu gwastraff) â'r polisi economaidd neoryddfrydol.[2][3][4][5] Mae'r symudiad tuag at bolisi "marchnad rydd" wedi hwyluso'r cynnydd sydyn yn y fasnach wastraff fyd-eang.
Mae’r fasnach wastraff fyd-eang wedi cael effeithiau negyddol ar lawer o bobl, yn enwedig mewn gwledydd tlotach sy’n datblygu. Yn aml nid oes gan y gwledydd hyn brosesau na chyfleusterau ailgylchu diogel, ac mae pobl yn prosesu'r gwastraff gwenwynig â'u dwylo noeth.[6] Yn aml nid yw gwastraff peryglus yn cael ei waredu na'i drin yn briodol, gan arwain at wenwyno'r amgylchedd cyfagos ac arwain at salwch a marwolaeth mewn pobl ac anifeiliaid.[7] Mae llawer o bobl wedi profi salwch neu farwolaeth oherwydd y ffordd anniogel y caiff y gwastraff peryglus hwn ei drin.