![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 572, 509 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,970.47 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.95°N 5.08°W ![]() |
Cod SYG | W04000948 ![]() |
Cod OS | SM875315 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Benfro, Cymru, yw Mathri[1] (Saesneg: Mathry). Saif yng ngogledd-orllewin y sir, heb fod ymhell o'r arfordir, ger y briffordd A487 i'r de-orllewin o dref Abergwaun.
Dengys cofnodion i ferch o'r enw Jemima Nicholas gael ei bedyddio ym mhlwyf Mathri ar 2 Mawrth 1755; mae'n bosibl ei bod yr un person a Jemima Nicholas, arwres y digwyddiadau o gwmpas glaniad y Ffrancod ger Abergwaun.
Mae cymuned Mathri hefyd yn cynnwys pentrefi Casmorys ac Abercastell. Saif tua chwarter arwynebedd y gymuned o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[3]