Y Gwir Anrhydeddus Matt Hancock AS | |
---|---|
Hancock yn 2020 | |
Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | |
Mewn swydd 9 Gorffennaf 2018 – 26 Mehefin 2021 | |
Prif Weinidog | Theresa May Boris Johnson |
Rhagflaenwyd gan | Jeremy Hunt |
Dilynwyd gan | Sajid Javid |
Aelod Seneddol dros Gorllewin Suffolk | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 2010 | |
Rhagflaenwyd gan | Richard Spring |
Mwyafrif | 23,194 (45.1%) |
Manylion personol | |
Ganed | Matthew John David Hancock 2 Hydref 1978 Caer, Swydd Caer, Lloegr |
Dinesydd | British |
Plaid gwleidyddol | Ceidwadwyr |
Priod | Martha Hoyer Millar |
Plant | 3 |
Addysg | Ysgol The King's, Caer |
Alma mater |
|
Gwefan | matt-hancock.com |
Gwleidydd Ceidwadol Seisnig yw Matthew John David Hancock (ganwyd 2 Hydref 1978). Roedd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol rhwng 2018 a 2021. Mae wedi bod yn Aelod Seneddol (AS) dros Gorllewin Suffolk ers 2010.
Cafodd ei eni yn Swydd Gaer. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol y Frenin, Caer, yng Ngholeg Exeter, Rhydychen ac yng Ngholeg Crist, Caergrawnt.
Ar 9 Gorffennaf 2018, ar ôl dyrchafiad Jeremy Hunt yn Ysgrifennydd Tramor, enwyd Hancock yn Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.[1] Ar 25 Mai 2019, cyhoeddodd Hancock ei gynlluniau i redeg am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol. Tynnodd yn ôl o'r ras ar 14 Mehefin yn fuan ar ôl ennill dim ond ugain pleidlais ar y balot cyntaf.[2] Cyhoeddodd ei ymddiswyddiad o'i swydd fel Ysgrifennydd Iechyd ar 26 Mehefin 2021 ar ôl cael ei ffilmio yn cusanu cynorthwyydd agos ym mis Mai 2021, oedd yn mynd yn erbyn rheoliadau COVID ar y pryd. Roedd Boris Johnson wedi derbyn ei ymddiheuriad ond heb ei ymddiswyddo yn bersonol, ac oedd “ystyried bod y mater wedi cau”.[3] Fe wnaeth Sajid Javid ei olynu.[4][5]