Matthew Hopkins | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 1620 ![]() Wenham Magna ![]() |
Bu farw | 12 Awst 1647, 10 Awst 1647 ![]() Manningtree ![]() |
Dinasyddiaeth | Lloegr ![]() |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, chwil-lyswr ![]() |
Darganfyddwr gwrachod Seisnig yn ystod cyfnod Rhyfel Cartref Lloegr oedd Matthew Hopkins (tua 1620 – 12 Awst 1647). Datganodd i fod yn Witchfinder General ond na roddwyd byth y teil yma gan Senedd Lloegr. Cynhaliodd ei erledigaethau yn bennaf yng ngorllewin Suffolk, Essex, Norfolk, ac ar adegau yn Swydd Gaergrawnt, Swydd Northampton, Swydd Bedford, a Swydd Huntingdon.[1]
Dechreuodd yrfa Hopkins fel darganfyddwr gwrachod ym Mawrth 1645[nb 1] a pharhaodd nes iddo ymddeol ym 1647. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd ei gymdeithion ac yntau yn gyfrifol am grogi mwy o bobl oherwydd dewiniaeth nac yn y 100 mlynedd diwethaf,[2][3] ac roeddent yn llwyr gyfrifol am y twf mewn erlid gwrachod yn ystod y blynyddoedd hynny.[4][5][6] Credir mai ef oedd yn gyfrifol am farwolaethau 300 dynes rhwng 1644 a 1646.[7] Amcangyfrifwyd y lladdwyd tua 500 o bobl ar ddechrau'r 15g ac ar ddiwedd y 18g oherwydd dewiniaeth. Felly, roedd ymdrechion Hopkins a'i gydweithiwr John Stearne yn cyfrannu tua 40 y cant o'r cyfan; nhw anfonodd fwy o bobl i'r crocbrennau mewn 14 mis na phob darganfyddwr arall yn y 160 mlynedd o erledigaeth yn erbyn gwrachod yn Lloegr.[8]
Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref>
yn bodoli am grŵp o'r enw "nb", ond ni ellir canfod y tag <references group="nb"/>