Maureen Rhys

Maureen Rhys
GanwydMaureen Jones Edit this on Wikidata
Cwm-y-glo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
PriodJohn Ogwen Edit this on Wikidata

Un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru yw Maureen Rhys (ganwyd 1944). Ganed yn Nghwm-y-glo, ger Caernarfon, Gwynedd. Magwyd gan ei nain, a mynychodd Ysgol Uwchradd Brynrefail yn Llanrug. Astudiodd ym Mhrifysgol Bangor.[1][2]

Mae wedi gweithio fel actores ar lwyfan a theledu ers y 1960au. Mae wedi cydweithio'n aml gyda'i gŵr, yr actor John Ogwen. Perfformiodd gyda John yn nrama Y Tŵr gan Gwenlyn Parry, drama a gomisiynwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978.

Chwareodd Bet yn y ffilm Tywyll Heno, addasiad o nofel Kate Roberts. Bu'n portreadu Marged Vaughan yn yr addasiad teledu cyntaf o Cysgod Y Cryman i BBC Cymru yn y 1960au a Greta yn y gyfres deledu Lleifior i S4C yn y 1990au.[3]

  1.  Proffil John Ogwen. BBC Cymru.
  2.  Linda Roberts (9 Ionawr 2002). Portrait of an actress. Caernarfon Herald.
  3. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw bbc-80oed

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne