Mauricio Soler

Mauricio Soler
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnJuan Mauricio Soler Hernández
Dyddiad geni (1983-01-14) 14 Ionawr 1983 (42 oed)
Taldra1.86 m
Pwysau? kg
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Math seiclwrArbenigwr dringo
Tîm(au) Proffesiynol
2006
2007–
Acqua & Sapone
Barloworld
Prif gampau
Cam 9, Tour de France, 2007
Brenin y Mynyddoedd, Tour de France, 2007
Circuit de Lorraine, 2006
Golygwyd ddiwethaf ar
19 Medi, 2007

Seiclwr ffordd proffesiynol o Golombia yw Juan Mauricio Soler Hernández (ganwyd 14 Ionawr 1983 yn Ramiriquí, Boyacá) ar gyfer tîm Barloworld. Cystadlodd yn y Tour de France am y tro cyntaf yn 2007, ar ôl dianc mewn brêc ar y Col du Galibier. Enillodd gystadleuaeth Brenin y Mynyddoedd y flwyddyn honno. Datganodd Soler bod ennill y gystadleuaeth honno yn "fuddugoliaeth o'r nefoedd. Dyma fuddugoliaeth fwyaf fy mywyd, y tro cyntaf i mi gymryd rhan yn y Tour de France. Feddyliais i erioed y byddai'n dod mor gyflym".[1]

Dechreuodd Soler rasio yn 17 oed; mae wedi dweud mai ras seiclo a gynhaliwyd yn ei bentref y flwyddyn honno a achosodd iddo benderfynu dod yn seiclwr proffesiynol. Wedi troi'n broffesiynol, treuliodd Soler flwyddyn yn rasio yn ei wlad ei hun, Colombia, cyn ymuno â thîm Acqua & Sapone o dan arweiniad Claudio Corti, a ddaeth ag ef wedyn i'w dîm presennol, Barloworld.[2]

  1. (Saesneg) Colombian rookie wins Cam nine of the Tour de France Monsters and Critics 17 Gorffennaf 2007
  2. (Saesneg) Soler's dream come true with Tour Cam win 17 Gorffennaf 2007

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne