Estados Unidos Mexicanos | |
Arwyddair | Derecho ajeno es la paz |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad, gwladwriaeth ffederal, gweriniaeth ddemocrataidd, gwladwriaeth gyfansoddiadol, cenedl, ymerodraeth, ymerodraeth, Next Eleven |
Prifddinas | Dinas Mecsico |
Poblogaeth | 124,777,324 |
Sefydlwyd | 1810 (Annibyniaeth oddi wrth Sbaen) 1836 (eu cydnabod gan eraill) |
Datganiad o annibynniaeth | 16 Medi 1810 [1] |
Anthem | Himno Nacional Mexicano, Toque de Bandera |
Pennaeth llywodraeth | Claudia Sheinbaum |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser Canolog |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg, Nahwatleg, Yucatec Maya |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | America Ladin, Gogledd America, America Sbaenig, MIKTA, Canolbarth America |
Gwlad | Mecsico |
Arwynebedd | 1,972,550 ±1 km² |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel, Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Gwatemala, Belîs, Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 23°N 102°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth ffederal Mecsico |
Corff deddfwriaethol | Cyngres yr Undeb |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Mecsico |
Pennaeth y wladwriaeth | Claudia Sheinbaum |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Mecsico |
Pennaeth y Llywodraeth | Claudia Sheinbaum |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $1,272,839 million, $1,414,187 million |
Arian | peso (Mecsico) |
Canran y diwaith | 5 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 2.243 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.758 |
Gwlad yng Ngogledd America yw Taleithiau Unedig Mecsico neu Mecsico (Sbaeneg: México). Y gwledydd cyfagos yw'r Unol Daleithiau, Gwatemala a Belîs. Mae gan y wlad arfordir ar y Cefnfor Tawel yn y gorllewin; yn y dwyrain mae ganddi arfordir ar Gwlff Mecsico a Môr y Caribî. Mecsico yw'r wlad fwyaf gogleddol yn America Ladin. Y brifddinas yw Dinas Mecsico (Sbaeneg: Ciudad de México), sy'n un o ddinasoedd mwyaf poblog y byd.
Gellir olrhain tarddiad Mecsico i 8,000 CC ac fe'i nodir fel un o "chwe chrud gwareiddiad";[2] roedd yn gartref i lawer o wareiddiadau Mesoamericanaidd datblygedig, yn fwyaf arbennig y Maya a'r Asteciaid. Yn 1521, gorchfygodd a gwladychodd Ymerodraeth Sbaen y rhanbarth o'i ganolfan yn Ninas Mecsico, gan sefydlu trefedigaeth Sbaen Newydd. Chwaraeodd yr Eglwys Gatholig ran bwysig yn lledaenu Cristnogaeth a'r iaith Sbaeneg drwy'r rhanbarth, tra hefyd yn gwarchod rhai elfennau brodorol.[3] Cafodd poblogaethau brodorol eu hisrannu a'u hecsbloetio'n helaeth i fwyngloddio dyddodion cyfoethog o fetelau gwerthfawr, a gyfrannodd at statws Sbaen fel pŵer mawr yn y byd am y tair canrif nesaf,[4] ac at fewnlifiad enfawr o gyfoeth a newid yng nghyllid Gorllewin Ewrop.[5] Dros amser, ffurfiwyd hunaniaeth Mecsicanaidd unigryw, yn seiliedig ar gyfuniad diwylliannau brodorol ac Ewropeaidd; cyfrannodd hyn at Ryfel Annibyniaeth Mecsico yn erbyn Sbaen ym 1821.[6]
Cafodd hanes cynnar Mecsico fel gwladwriaeth ei nodi gan gynnwrf gwleidyddol a chymdeithasol-economaidd. Arweiniodd Chwyldro Texas a Rhyfel Mecsico-America yng nghanol y 19g at golledion tiriogaethol enfawr i'r Unol Daleithiau. Ymgorfforwyd diwygiadau La Reforma yng Nghyfansoddiad 1857, a geisiodd integreiddio cymunedau brodorol a chwtogi ar bŵer yr eglwys a'r fyddin. Sbardunodd hyn ryfel Diwygio mewnol ac ymyrraeth gan Ffrainc, lle gosododd ceidwadwyr Maximilian Habsburg fel ymerawdwr yn erbyn y Gweriniaethwyr, dan arweiniad Benito Juárez. Yn negawdau olaf y 19g gwelwyd yr unbennaeth Porfirio Díaz yn ceisio moderneiddio Mecsico ac adfer trefn.[6] Daeth oes <i id="mwhw">Porfiriato</i> i ben ym 1910 gyda rhyfel cartref Mecsico (neu Chwyldro Mecsico) a barhaodd am ddegawd, a lle gwelwyd tua 10% o'r boblogaeth yn marw, ac ar ôl hynny drafftiodd y 'fyddin Gyfansoddiadol fuddugol' Gyfansoddiad newydd yn 1917, sy'n parhau i fod yn weithredol hyd heddiw. Bu cadfridogion y chwyldro yn arlywyddion hyd nes llofruddio Alvaro Obregón ym 1928. Arweiniodd hyn at ffurfio'r Blaid Sefydliadol y Chwyldroadol (Sbaeneg: Partido Revolucionario Institucional) y flwyddyn ganlynol, a lywodraethodd Mecsico tan y flwyddyn 2000.[7][8][9][10]
Gwlad sy'n datblygu yw Mecsico, ac mae hi yn y 74ydd safle ar y Mynegai Datblygiad Dynol, ond mae ganddi economi 15fed fwyaf y byd yn ôl CMC enwol a'r 11fed-fwyaf gan PPP, gyda'r Unol Daleithiau yn bartner economaidd mwyaf.[11][12] Mae ei heconomi a'i phoblogaeth fawr, ei dylanwad diwylliannol byd-eang, a'i democrateiddio cynyddol yn gwneud Mecsico yn bŵer rhanbarthol a chanolig;[13][14][15][16] ac fe'i diisgrifir yn aml fel pŵer sy'n dod i'r amlwg (emerging power) ond fe'i hystyrir yn wladwriaeth sydd newydd ei diwydiannu (newly industrialized country) gan sawl dadansoddwr.[17][18][19][20][21] Fodd bynnag, mae'r wlad yn parhau i gael trafferth gydag anghydraddoldeb cymdeithasol, tlodi a throseddau helaeth; mae'n graddio'n wael ar y Mynegai Heddwch Byd-eang,[22] oherwydd gwrthdaro parhaus rhwng y llywodraeth a syndicadau masnachu cyffuriau a arweiniodd at dros 120,000 o farwolaethau ers 2006.[23]
Ar restr Safle Treftadaeth y Byd UNESCO mae gan Mecsico fwy o safleoedd na'r un wlad arall yn yr Americas, a'r 7fed drwy'r byd.[24][25][26] Mae hefyd yn un o'r 17 gwlad mwyaf amrywiol y byd, o ran bioamrywiaeth.[27] Mae treftadaeth ddiwylliannol a biolegol gyfoethog Mecsico, yn ogystal â hinsawdd a daearyddiaeth amrywiol, yn ei gwneud yn gyrchfan bwysig i dwristiaid: yn 2018, hi oedd y chweched wlad yr ymwelwyd â hi fwyaf yn y byd, gyda 39 miliwn yn cyrraedd yn rhyngwladol.[28] Mae Mecsico yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, y G20, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), Sefydliad Masnach y Byd (WTO), fforwm Cydweithrediad Economaidd Asia-Môr Tawel, Sefydliad Taleithiau America, Cymuned America Ladin a Gwladwriaethau Caribïaidd, a Sefydliad Gwladwriaethau Ibero-Americanaidd.