Darn o fetel ac arno ysgrifen neu arwyddlun i anrhydeddu neu wobrwyo person neu i nodi achlysur yw medal.[1][2] Caiff ei bwrw mewn siâp darn arian, gan amlaf, er na chaiff ei chylchredeg. Dygir basgerfiadau ac arysgrifau ar wyneb blaen a thu ôl y fedal.
Gwneir medalau coffa er nodi neu ddathlu digwyddiad arbennig neu er cof am unigolyn o fri. Cyflwynir medalau milwrol, ar ffurf disgen, croes, neu seren, i gydnabod dewrder ym maes y gad, am gymryd rhan mewn ymgyrch benodol neu am gyflawni cyfnod o wasanaeth milwrol. Rhoddir medalau hefyd gan y wladwriaeth neu gan urdd neu gymdeithas sifil er anrhydedd yn y gwyddorau neu'r celfyddydau. Gwisgir medalau crefyddol gan rai credinwyr, megis Catholigion, sydd yn credu iddynt dderbyn bendith Duw.