Medrawd

Medrawd, llun gan H.J. Ford

Cymeriad yn y chwedlau am y Brenin Arthur yw Medrawd, weithiau Medrod. Dywedir ei fod yn nai i Arthur, neu mewn ffynonellau eraill yn fab gordderch iddo, ac iddo wrthryfela yn ei erbyn, gan achosi Brwydr Camlan.

Ceir y cofnod cynharaf am y frwydr yn yr Annales Cambriae am y flwyddyn 537:

Gueith camlann in qua Arthur eroxt Medraut corruerunt.
("Brwydr Camlan, yn yr hon y bu farw Arthur a Medrawd")

Ceir yr hanes yn llawn gan Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae. Geilw'r ymerawdwr Lucius Tiberius ar Brydain i dalu teyrnged i Rufain unwaith eto. Mae Arthur yn gorchfygu Lucius yng Ngâl, ond yn y cyfamser mae Medrawd yn cipio gorsedd Prydain a'r frenhines Gwenhwyfar. Dychwela Arthur a lladd Medrawd ym mrwydr Camlan, ond fe'i clwyfir yn angheuol ei hun ac mae'n cael ei gludo i Ynys Afallach ac yn trosgwlyddo'r deyrnas i'w nai Cystennin.

Mae traddodiad arall fod y cweryl rhwng Arthur a Medrawd wedi dechrau fel ffrae rhwng Gwenhwyfar a'i chwaer Gwenhwyfach.

Cyfeirir at Fedrawd fel un o'r 'Trywyr Gwarth' mewn triawd hir yn Nhrioedd Ynys Prydain sy'n rhoi hanes Camlan.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne