![]() | |
Math | melin lanw ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Caeriw ![]() |
Sir | Caeriw ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 1.6 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.699°N 4.8354°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Manylion | |
Melin ŷd yn Sir Benfro, Cymru, wedi'i bweru gan y llanw yw Melin Lanw Caeriw, sy'n fath o felin Ffrengig. Cafodd ei hadeiladu tua 1801 ychydig i'r gorllewin o Gastell Caeriw, gan ddisodli melin llawer hŷn a safodd yma am ganrifoedd cyn hynny. Mae'n enghraifft of felin lanw (gelwir hefyd, weithiau'n 'felin môr').
Pwll y felin yw Afon Caeriw, a chrerir y pwll gan argae ar draws yr afon drwy gau'r llifddorau pan fo'r llanw yn ei anterth (ar ei uchaf). O dan y felin ei hun ceir dau lif-ddôr er mwyn gollwng y dŵr pan fo'r môr ar drai. Wrth i'r dŵr basio'r llifddorau hyn mae'n troi dwy olwyn ddŵr enfawr a hyn, yn ei dro'n troi olwynion cocos ac yn malu'r ŷd. Dyma'r unig felin lanw o'i bath yng Nghymru. Caewyd drysau'r felin yn 1937 ond yn 1972 dechreuwyd ei hadfer gan ei hagor fel arddangosfa ac oddi wefn ceir amgueddfa.